Dilwyn Price
Ar ôl gwirfoddoli gyda’r Urdd am dro 40 mlynedd, fe fydd Dilwyn Price o Hen Golwyn yn ganolbwynt seremoni ar brif lwyfan maes yr Eisteddfod heddiw.

Mae’r gŵr sydd wedi arwain Jamboris ers iddyn nhw gael eu cyflwyno gyntaf yng Ngorllewin Clwyd yn 1988, yn ogystal â hyfforddi aelodau yn ardal Conwy, yn derbyn Gwobr John a Ceridwen Hughes am ei gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Roedd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Conwy 2008.

Dywedodd bod ennill y wobr “fel breuddwyd”.

‘Breuddwyd’

Mae Dilwyn Price yn wreiddiol o Rewl Mostyn ond mae bellach yn byw yn Hen Golwyn gyda’i wraig Helen. Mae ganddyn nhw dri o blant sydd erbyn hyn wedi dilyn ôl traed eu tad yn arwain adrannau ac yn hyfforddi plant a phobol ifanc.

“Mae ennill fel breuddwyd,” meddai Dilwyn Price.

“Mae’r Urdd wedi bod yn fy mywyd i ers yn ddisgybl cynradd, ac wrth i unigolyn ddatblygu mae’n gweld beth yw gwerth ein mudiad ni. Y cyfleoedd mae’r plant a’r bobol ifanc yn eu cael, maen nhw’n dod yn ôl ar eu canfed.

“I’r tîm yma yng Nghaerffili eleni, mae eich dylanwad chi yn hir-gyrhaeddiol. Fe fydd plant a’r ardal i gyd yn cofio hyn oherwydd gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser.”

Bydd yn derbyn y wobr ar lwyfan y Pafiliwn am 6:45 heno.