Elis Puw ar ei ffordd adref
Roedd moment o banig ar Faes Eisteddfod yr Urdd brynhawn ddoe pan aeth bachgen naw oed ar goll.

Roedd Elis Puw o ardal Porthmadog wedi bod yn chwarae yn y Maes Chwaraeon, ond fe fethodd ei rieni a dod o hyd iddo pan ddaeth hi’n amser iddyn nhw gyfarfod.

Ond ar ôl chwilio am gyfnod, fe welwyd Elis Puw yn cerdded allan o’r Pafiliwn ar ôl iddo fod yn gwylio’r gystadleuaeth i bartïon canu blwyddyn chwech ac iau.

Roedd y bachgen, sy’n ddisgybl yn Ysgol Eifion Wyn, wedi cael digon ar y gweithgareddau chwaraeon ac wedi penderfynu mynd i chwilio am ychydig o ddiwylliant cerddorol.

‘Caewch y drysau os gwelwch yn dda’

Fe ddywedodd tad Elis Puw bod ei fab hyd yn oed wedi troi ei ffôn symudol i ffwrdd – fel sy’n ofynnol i’r gynulleidfa wneud wrth wylio cystadlaethau yn y Pafiliwn:

“Roedd o wedi troi ei ffôn i ffwrdd am ei fod wedi mynd i mewn i’r Pafiliwn felly doedden ni methu cael gafael arno,” meddai Tudur Puw wrth golwg360.

“Ges i alwad ffôn gan Helen y wraig yn dweud bod hi methu cael gafael arno.

“Ond ar ôl dod o hyd iddo, nes i ofyn i Elis – beth welis di yn y Pafiliwn? Rhywbeth tân gwyllt, medda fo.”

“Roedd y drysau ar agor a dwi’n meddwl ei fod o wedi meddwl, a’i mewn. Heb ddallt y basa fo’n cael ei gau i mewn.”

Roedd partïon Bl.6 ac iau yn canu ‘Noson Tân Gwyllt’ gan Robat Arwyn yn y Pafiliwn pan oedd Elis Puw yno.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd y dylai rhywun fynd i’r Swyddfa Ymgynnull ger y Pafiliwn os oes plentyn yn mynd ar goll.