Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Dyddiad olaf i ymateb i ddogfen ar ddatblygu’r diwydiant cerdd

Ionawr 25, 2012 11:02


Heddiw yw’r dyddiad olaf i ymateb i ymgynghoriad Cyngor Celfyddydau Cymru ar ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Eisoes, mae cyfle wedi bod gan bobl i ymateb i gynigion ymgynghorol drafft y Cyngor ar ddatblygu’r diwydiant cerdd yng Nghymru.

Yn y ddogfen, mae Cyngor y Celfyddydau yn ystyried Cronfa Ddatblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth maen nhw’n bwriadu cyflwyno ac yn gofyn am farn pobl.

Mae syniadau o nifer o wahanol ffynonellau wedi’u cynnwys yn y ddogfen gan gynnwys  eu gwaith a’u partneriaeth â Sefydliad Cerdd Cymru.

Bwriad y gronfa yw ceisio annog cerddorion i fod yn entrepreneuriaid â’u cerddoriaeth drwy roi mynediad iddynt i’r sgiliau, y rhwydweithiau a’r marchnata sydd eu hangen ar y sector.

Gellid defnyddio’r gronfa hefyd i ariannu mentrau cerddorol sy’n ‘chwilio am ffyrdd arloesol i greu refeniw a pharhau i fuddsoddi mewn artistiaid.’

Mae’r gronfa hefyd eisiau datblygu cyfleoedd perfformio proffesiynol; cerddorion; cyfansoddwyr; hyrwyddwyr; ymchwil; hyfforddiant, mentora a gwasanaethau busnes eraill i gefnogi’r sector.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.