Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Cyngor Gwynedd eisiau’r Faenol yn ôl

Ionawr 26, 2012 10:22


Bryn Terfel
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd eisiau gweld Gŵyl y Faenol yn ôl yng ngogledd Cymru’r flwyddyn nesa’, meddai.

Eisoes, mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi ddechrau’r wythnos y bydd yn cynnal pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth pop yn rhan o Ŵyl y Byd Canolfan y Southbank, ychydig cyn y Gemau Olympaidd.

Nid yw’r ŵyl wedi’i chynnal ar Stad y Faenol ger Bangor ers pedair blynedd, oherwydd trafferthion ariannol.

Yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd mae’r digwyddiad yn y Southbank yn gyfle i “ailgydio” yn yr ŵyl. “Rydan ni’n siomedig bod yr ŵyl ddim wedi digwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’ yma, o gwbl, yn unrhyw le,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.

‘Brand’

Mae penderfyniad Bryn Terfel i gynnal Gŵyl y Faenol yn y Southbank yn “profi bod y brand wedi’i sefydlu ac wedi hen ennill ei phlwy,” yn ôl Dyfed Edwards.

“Mae’r Faenol a Bryn Terfel bellach yn enwau sy’n denu cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae hynny yn creu gobaith i’r dyfodol – y bydd yr ŵyl yn gallu ymweld â’r Southbank oherwydd amgylchiadau arbennig o gwmpas yr Olympics, ond yn dychwelyd i’w phriod le maes o law.”

Dywedodd y byddai eleni’n “gyfle i weld a ydi’r fformiwla’n gweithio ac efallai y gallwn ni adeiladu arni, a chael yr ŵyl yn ôl i’r Faenol.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 27, 2012 1:51 am

gret syniad da dyfed

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 28, 2012 9:59 am

Fy neges trydar i i Bryn Terfel:
Gobeithio y bydd gan Sain stondin yno.CDau yn gwerthu fel slecs.Llwyfan i ee S James,M Stevens,CPJones serennu?Cerdd CymrAEg!
@MartinWilliam34

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.