Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Sengl newydd Crash.Disco! ar y ffordd

Chwefror 8, 2012 12:23


Mae’r artist electronica Crash.Disco! wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu rhyddhau ei sengl newydd ddiwedd mis Chwefror.

Bydd y sengl newydd, ‘Alice’ ar gael i’w lawr lwytho, a hynny’n rhad ac am ddim o dudalen Soundcloud Crash.Disco!

Daw’r sengl newydd yn dynn wrth sodlau EP cyntaf prosiect cerddorol Gruff Jones o Fangor, a gafodd ei ryddhau ddiwedd mis Hydref.

Cafodd yr EP adolygiadau ffafriol iawn yn y wasg Gymreig a Saesnig ac mae’n ymddangos bod y cerddor arbrofol yn hapus gyda llwyddiant ei gynnyrch cyntaf.

“Ma’r copis CD o’r EP di gwerthu allan, ond i fod yn deg, dim ond 50 oedd ar gael,” meddai Gruff Jones wrth Golwg360.

Crash.Disco! yw’r diweddaraf o nifer o gerddorion cyfoes i gynnig ei gerddoriaeth i’w lawr lwytho am ddim.

“Rhyw fath o ddiolch yw e,” ychwanegodd Gruff.

Er mai nifer cyfyngedig o gopïau caled o’r EP cyntaf oedd, mae’r caneuon hefyd ar gael i’w prynu ar ffurf electroneg ac nid ar chwarae bach mae dod yn ffefryn gyda DJs fel Jen Long, Huw Stephens ac Adam Walton.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.