Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Datgelu pwy a beth fydd yn cymryd lle Wedi3/Wedi7

Chwefror 21, 2012 12:54



Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai rhaglenni dyddiol Heno a Prynhawn Da fydd yn cymryd lle Wedi 3 a Wedi 7 ar 1 Mawrth eleni, a rhaglen gystadlaethau Pen8nos ar gyfer bob nos Wener.

Bydd y rhaglenni newydd yn gyfle i weld un neu ddau o wynebau newydd yn dod i’r sgrin, ond bydd llawer o’r wynebau cyfarwydd yn dychwelyd hefyd.

Un o’r wynebau amlycaf o’u plith fydd Rhodri Ogwen, sydd wedi cael rhan yn y dair rhaglen newydd sydd i gael eu lansio ddydd Gŵyl Dewi.

Bydd Rhodri Ogwen, sy’n gyn-gyflwynydd ar Sky Sports ac Al Jazeera Sports, yn ymuno â thîm sy’n cynnwys Emma Walford, Rhodri Owen a Mari Grug ar gyfer cyflwyno Heno, sydd i’w darlledu bob nos Lun i nos Iau am 7pm.

Bydd y rhaglen sy’n cymryd lle Wedi 3 – Prynhawn Da – yn cael ei darlledu am 1pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda’r tîm cyflwyno yn cynnwys Rhodri Ogwen, Angharad Mair, a Sian Thomas.

‘Mentrus’

Y rhaglen nos Wener yw prosiect mwyaf mentrus y Sianel, a’r syniad tu ôl i’r rhaglen fyw yw y bydd yn paratoi gwylwyr ar gyfer y penwythnos.

Bydd Pen8nos yn cael ei rhannu’n ddwy ran, gyda’r rhan gyntaf, rhwng 7-7.30pm, a’r ail ran yn cael ei darlledu rhwng 8.25-9.30pm.

Bydd y rhaglen yn cyfuno darnau stiwdio gyda darlledu cyson o gymunedau ar draws Cymru. Canolbwynt y rhaglen, medd S4C, fydd cael timau i gystadlu yn erbyn ei gilydd – a’r timau hynny yn cynrychioli clybiau, grwpiau a theuluoedd mewn cymunedau ar draws Cymru.

Eleri Siôn a Gethin Evans fydd prif gyflwynwyr y rhaglen, gyda’r gantores Elin Fflur a’r gyflwynwraig newydd Llinos Lee yn darlledu o’r lleoliadau ar draws Cymru.

Bydd ail-ran y rhaglen yn cynnwys cyfres newydd o Jacpot – a Rhodri Ogwen fydd yn cymryd yr awenau ar honno.

Tinopolis

Daw’r cyhoeddiad heddiw â diwedd ar wythnosau o ddyfalu pwy fydd yn cael aros, a phwy fydd yn gorfod mynd, wedi i Tinopolis ennill y tendr newydd ar gyfer rhaglenni cylchgrawn y sianel.

Roedd Golwg 360 eisoes wedi datgelu na fyddai John Hardy, Meinir Gwilym, na Gerallt Pennant yn rhan o’r arlwy newydd, ac y byddai swyddfa Tinopolis yn y Galeri, Caernarfon, yn cau o dan y cynllun rhagelnni newydd.

Bydd Heno, Prynhawn Da a Pen8nos yn cael eu lansio ar 1 Mawrth, ac mae S4C yn dweud y bydd y “dair cyfres fyw ffres yn brif sylfaen i amserlen newydd” y Sianel.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jeifin Jenkins , Chwefror 21, 2012 3:23 pm

Ai joc yw hyn? Heno, Jacpot, Pnawn da a Sion a Sian? Be nesa? Fwy o Tipit?

Oh, a Pen8nos, mae’r pyn yna ond yn gweithio os fysa’r rhaglen yn cychwyn am 8 o’r gloch.

§

Ifor Hughes , Chwefror 21, 2012 3:37 pm

Gwell ‘brands’ o lawer na W7 & W3

§

Guto , Chwefror 21, 2012 4:26 pm

Beth am Roc Rôl Te?

§

twrch , Chwefror 21, 2012 5:03 pm

Swnio lot gwell yn barod, dechre teimlo. positif am Sbrec eto

Wylies awr a hanner o Sbrec neithiwr a mwynhau o i gyd, rhywbeth am ffarmio, Darn Bach o Hanes a Ffeit gyntaf Amy, be sy’n mynd ymlaen??

§

Martin Wilias , Chwefror 21, 2012 5:53 pm

Diolch am y sylw i lawnsiadau llyfrau. Hoffwn dynnu eich sylw i @WediSaeth yn y trydarfyd.
Eitem yn son am @WediSaeth ar Wedi7?
Y mae chwerthin yn beth iach i’r enaid.

§

Rhys Llwyd , Chwefror 21, 2012 6:30 pm

Y ffurf “Pen8nos” am Penwythnos braidd yn 90s? Yn fy atgoffa o sengl erchyll Coolio “C U When U Get There”.

Pob hwyl da’r rhagleni newydd!

§

Jones , Chwefror 21, 2012 7:17 pm

Falch gweld Rhodri Ogwen a Eleri Sion yn ol. Falch weld bod Emma yn aros ymlaen, ond bechod nad ydy John Hardy yn ran or rhaglenni newydd.

Cytuno gyda “pen8nos” – enw stupid. Ag os mai logo y rhaglen yw llun o pen rywun, yna y rhif 8, yna llun or lleuad – fyddain rhoi o off yn syth!!! very retro!

§

margaret ifans , Chwefror 21, 2012 8:59 pm

Mae rhaglen fel Sion a Sian yn lawer rhy hen ffasiwn yn awr a mi fydda yn troi y teledu i ffwrdd – gwastraff llwyr. Jacpot hefyd wedi chwythu ei blwc – dewch wir a pethau newydd i ni.

§

irfon , Chwefror 22, 2012 9:45 am

‘Heno’?? Teitl gwell fasa ‘Deja Vu’.

§

Ifor Hughes , Chwefror 22, 2012 10:51 am

Edrych ‘mlan i weld Heno nol – roedd polisi iaith y rhaglen o flaen ei amser – gobeithio gweld lot lot fwy o’r Cymoedd tro ma – y Cymry newydd

§

Ifor Hughes , Chwefror 22, 2012 10:59 am

Beth am gael cyfres fath a Grumpy Old Men a chael Irfon ar Eirwen Haf yna arni – ma nhw mor negatif ynglyn a phopeth .

Cheer up Eirwen and Irfon ma’r gwanwyn yn yr awyr a’r wyn bach yn brocian yn y caeau a’r lilly wen fach .. o na ma’r snowdrops wedi hen fynd !

§

irfon , Chwefror 22, 2012 11:03 am

Ifor- dwi’n cofio bod yn bositif iawn am ‘Dim Byd’ yn eitha diweddar. Pan mae S4C yn comisiynnu rhywbeth gwereiddiol a chyffroes dwi mor hapus a’r ‘lilly’ fach wen.

§

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 22, 2012 11:53 am

haha. Rhowch raglen i Ifor Hughes plis!

§

Eirwen Haf , Chwefror 24, 2012 9:53 am

Ifor -ti yw’r pen ‘Grumpy Old Man’ -yn swnio am rywbeth byth a beunydd! :)

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.