Mihangel Jones
1.Mihangel Jones – Oriel Ffin y Parc, Llanrwst

Cerddoriaeth yw’r thema sydd yn rhedeg drwy gasgliad diweddaraf yr artist Mihangel Jones, fydd yn cael ei arddangos yn Llanrwst yn ystod mis Chwefror.

Hon fydd y trydydd gwaith i’r artist o Ddolgellau ddangos ei waith yn Oriel Ffin y Parc, ac fe fydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith gan James Eccleston.

Mae gwaith newydd Mihangel Jones yn cynnwys darluniau grymus a breuddwydiol o bobl yn chwarae, yn ymateb, neu yn ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth.

Ac yn ôl perchennog yr oriel mae’r artist o’r diwedd yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol am ei luniau hudolus.

“Mae Mihangel yn artist talentog ac angerddol ac mae’n syndod nad oes mwy o sylw wedi cael ei roi iddo tan yn ddiweddar,” meddai perchennog Oriel Ffin y Parc, Ralph Sanders.

“Mae ei waith yn cyfleu rhyw eco o’r angerdd yna; cofio, gweld ac adolygu’r angerdd yna. Y gwrthrychau, yr offerynnau sydd yn sail i’r creadigrwydd.

“Mae’r cerddorion yn estyniad o’u hofferynnau ac mae’n creu cysylltiadau rhwng ysgogiadau creadigol a chenhedlol, yn ogystal â rhwng rhythm y gerddoriaeth, patrymau ein bywyd pob dydd a chylchred y lleuad a’r tymhorau.”

Fe fydd gwaith newydd Mihangel Jones a James Guy Eccleston yn cael ei lansio ar ddydd Sul 1 Chwefror yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, ac fe fydd yr arddangosfa ar agor nes 25 Chwefror.

2.Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Ysgol Sul – Canolfan Gymdeithasol Talysarn, Dyffryn Nantlle

Fe fydd pobl Dyffryn Nantlle yn cael cyfle i glywed rhai o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru nos Sadwrn 31 Ionawr mewn gig arbennig yng Nghanolfan Gymdeithasol Talysarn.

Yn arwain y noson fydd Candelas, a enillodd tair Gwobr Selar yn 2014 ac a ryddhaodd eu halbwm newydd Bodoli’n Ddistaw cyn y Nadolig.

Bydd y band o Ben-Llŷn, Cowbois Rhos Botwnnog, hefyd yn chwarae ar y noson yn ogystal ag enillwyr Brwydr y Bandiau Eisteddfod Sir Gâr llynedd, Ysgol Sul.

3.Meirion Ginsberg: Peintiadau Newydd – Oriel Tegfryn, Porthaethwy

Fe fydd modd gweld casgliad newydd o waith yr artist ifanc cyffrous Meirion Ginsberg am wythnos arall yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy cyn i’w arddangosfa gau ar 8 Chwefror.

Mae’r 30 o baentiadau wedi eu hysbrydoli gan gymeriadau ym mywyd pob dydd yr artist, sydd yn rhestru Francis Bacon, Willem de Kooning a Norman Rockwell fel rhai o’i ddylanwadau.

Hon yw ail sioe unigol yr artist yn yr oriel, ac fe ddywedodd yr artist o ogledd Cymru fod y lluniau newydd yn ddilyniant o’i waith blaenorol.

“Mae nifer o’r syniadau yn y gyfres hon wedi eu gweithio yn ddigymell, dod o hyd i ddelwedd ddiddorol, llun neu atgof ac yna gweithio’n syth ar gynfas,” esboniodd Meirion Ginsberg, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Celf Caerdydd.

“Nid oedd unrhyw gynllunio ymlaen llaw gydag unrhyw un o’r paentiadau, ond weithiau byddai paentiad gorffenedig yn ffynhonnell ar gyfer gwaith yn y dyfodol, gan greu set o reolau sy’n dylanwadu ar fy ffordd o weithio.”

Mae holl waith Meirion Ginsberg ar werth ac i’w gweld ar wefan www.artwales.com, ac fe fydd y casgliad i’w weld yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy nes dydd Sul 8 Chwefror.

4.Daniel Owen ac Iaith Sir Y Fflint – Festri Capel Seilo, Llandudno

Nos Wener 6 Chwefror fe fydd darlith yn cael ei chynnal yn Festri Capel Seilo yn trafod Daniel Owen a’r defnydd o dafodiaith Sir y Fflint.

Fe fydd y ddarlith yn cael ei rhoi gan Dr Goronwy Wynne, sydd wedi bod yn astudio’r defnydd o iaith y sir yn nofelau Daniel Owen ac yn enwedig yn rhai o gymeriadau’r straeon.

5.Ian Phillips: Golygfeydd Newydd o Hen Fryniau – Oriel Tabernacl, Machynlleth

Mae Ian Phillips yn adnabyddus fel un o argraffwyr celf gorau Cymru, ac fe fydd casgliad o’i waith ar gael i’w gweld yn ei oriel leol ym Machynlleth tan 11 Ebrill.

Yn y darluniau print sydd i’w gweld yn Oriel y Tabernacl ar hyn o bryd mae’r artist yn cyflwyno rhai syniadau a thechnegau newydd, i geisio cyfle natur gyfnewidiol y tywydd a’r tymhorau ar fryniau Cymru, a chyflwyno blas chwedloniaeth a hanes i’r darluniau.

Am ragor o ddigwyddiadau’r wythnos hon cymerwch gip ar y Calendr yn Golwg.