Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Tlysau siampên i ddathlu’r Eisteddfod

Awst 1, 2011 14:29


Mari Thomas
Fe fyddai’r hen Eisteddfodwyr yn troi yn eu beddau wrth i’r Brifwyl godi arian trwy gasgliad o dlysau sydd wedi eu hysbrydoli gan swigod siampên.

Maen nhw’n cael eu creu i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern yn 150 oed a’r bwriad yw eu bod yn anrhegion ar gyfer dathliadau o bob math.

“Wnes i eu cynllunio nhw gyda gwydr yn un llaw a phensil yn y llall,” medda’r tlysydd Mari Thomas, sydd wedi creu’r tlysau ar batrwm swigod bach o’r diod dathlu.

Ar bob un o’r bybls, mae wedi ysgythru gair Cymraeg sy’n ymwneud â dathlu, fel ‘arbennig’, ‘hapusrwydd’ a ‘cariad’.

Fe fydd cyfran o’r pris gwerthu’n mynd i goffrau’r Eisteddfod, meddai Mari Thomas, sydd wedi cynllunio dwy o goronau’r Brifwyl ac wedi ennill y Fedal Aur am Grefft.

“Yn ogystal â dathlu 150 mlynedd, mae’n symud ymlaen hefyd,” meddai’r grefftwraig sy’n gweithio yn yr Eglwys Norwyaidd yn Abertawe. “Ac mae’r tlysau’n addas ar gyfer pawb sy’n dathlu.”

Fe fydd achlysur ar wahân yn cael ei gynnal yn yr hydref i lansio’r casgliad yn swyddogol.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Heledd , Awst 1, 2011 2:41 pm

Ma steddfod mynd high end dyddia ma dydi? Siampen… 17 punt i fynd i fewn… heb son am prisha y bwyd…. Man excludio pobol gyfredin rhag cymryd rhan yn ein diwylliant. Rhowch y steddfod nol i’r werin!

§

Heledd , Awst 1, 2011 2:48 pm

wps, sori, meddwl na glasses siampen oedd yn cael ei gwerthu dim tlysau!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.