Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



‘Gwerthu perfformiadau’ mewn siop yn Wrecsam

Awst 5, 2011 11:02


Mae cwmni Migrations am agor siop yn Wrecsam y flwyddyn nesaf fydd yn ‘gwerthu perfformiadau’.

Bydd dau artist, Michikazu Matsune o  Japan a David Subal o Awstria, yn agor y siop dros dro ar stryd fawr Wrecsam, gan werthu perfformiadau celfyddydol i’r cyhoedd.

“Bydd pobl yn gallu dewis o restr o berfformiadau ac wedyn gallu prynu un a 20c neu rywbeth felly – ac yna bydd yr actorion yn perfformio iddyn nhw,” meddai Megan Broadmeadow sy’n gwneud gwaith hyrwyddo i gwmni Migrations.

“Maen nhw’n gwneud pethau gwahanol fel y Big Bang, maen nhw’n cael rôl o masking tape ac maen nhw’n mynd syth allan i’r stryd ac yn lapio pawb i fyny. Mae’n lot o hwyl a phawb yn gallu mwynhau,” ychwanegodd.

Eisoes mae’r prosiect wedi bod i Fangor, Vienna, Paris, Kyoto, Efrog Newydd ac fe fydd yn Wrecsam am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

“Mae’r cyhoedd wedi mwynhau yn arw hyd yma. Mae mor abstract ond mae hynny yn rili da achos mae’n tynnu sylw pobl. Mae pob math o bobl wedi bod i mewn i’r siop,” meddai Megan Broadmeadow.

“Mae Wrecsam angen mwy o bethau diddorol a gwahanol,” ychwanegodd cyn dweud fod y siopau perfformiadau yn apelio at bobl o bob oed.

Fe fydd y siop yn dod i Wrecsam am wythnos fis Ebrill nesaf.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.