Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Prif weithredwr Pontio yn mynd

Awst 25, 2011 19:33, Diweddarwyd am 21:07


Robert O'Dowd
Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Prifysgol Bangor wedi gadael ei swydd.

Cafodd Robert O’Dowd, sy’n ddi-Gymraeg, ei benodi’r llynedd ac roedd disgwyl i’r ganolfan agor yn 2013.

Roedd y ganolfan newydd ddiwylliannol £28 miliwn wedi ei feirniadu yn gynharach eleni am beidio â sicrhau fod digon o’r staff yno’n siarad Cymraeg.

Dywedodd Prifysgol Bangor ym mis Chwefror eleni eu bod nhw’n bwriadu ailfeddwl agwedd y ganolfan at yr iaith yn dilyn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith.

Wrth ymateb i’r newyddion heddiw dywedodd y brifysgol fod Robert O’Dowd wedi treulio “blwyddyn lwyddiannus yn arwain datblygiadau cynnar hanfodol Pontio”.

“Mae bellach wedi penderfynu gadael y brifysgol er mwyn parhau i ddatblygu ei sgiliau entrepreneuriaid a busnes mewn meysydd eraill,” medden nhw.

“Cyn cael ei benodi i Brifysgol Bangor, roedd Robert wedi sefydlu a chyfarwyddo Designs of the Time, rhaglen cynllunio £8.5 miliwn yng Nghernyw.

“Mae ei sgiliau wrth ddod a phrosiectau fel hyn i ffrwyth, yn dangos ei allu cyfathrebu gwych, a’i sgiliau busnes, sydd wedi cyfrannu at ei waith yn Pontio.

“Hoffai’r brifysgol ddiolch i  Robert O’Dowd am ei ymrwymiad i Pontio sydd wedi elwa yn fawr iawn o’i arweiniad yn ystod y cyfnod cyntaf allweddol hwn.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Awst 25, 2011 8:38 pm

Felly grant ddim yn cael ei dalu ar amser.
Prif Weithredwr yn gadael.
Gohirio dechra’r prosiect.

Problemau yn Pontio? Ydio wirioneddol am ddigwydd??!

§

Adam Jones , Awst 25, 2011 10:57 pm

Os felly, rwyf ar ddeall bydd y Brifysgol wrth gwrs yn gosod amod ieithyddol ar y penodiad newydd?

Pfft dim ffiars o beryg ys dyweda’r Gogleddwyr!

§

Fon Gruffydd , Awst 26, 2011 5:14 pm

Hollol, Adam. Mae agwedd “Bangor University plc” tuag at yr iaith Gymraeg yn warthus.

§

Sión Jones , Awst 26, 2011 7:36 pm

Galllwch for yn sicr na fydd unrhyw ygeisydd, pa mor gymwysiedig y bo, yn cale cyfweliad oc nac yw yn siarad Saesneg.

§

Jones , Awst 26, 2011 8:08 pm

Un o prif ‘raison d’etre’ Prifysgol Bangor yw y iaith gymraeg. Tydy o ddim yn yr un cae a Cernyw, Rhydychen ayyb. Os tydy y iaith gymraeg ddim yn gryf yno, hynny yw addysg mewn safle/cymuned gymraeg dim ond Prifysgol ‘middle of the road’ ydio fel 100oedd o colegau eraill ym Mhrydain.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.