Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Creiriau yn dod yn fyw ym Mangor

Medi 26, 2011 17:56


Amgueddfa ac Oriel Gwynedd (Llun: Cyngor Gwynedd)
Bydd rhai o greiriau ac arteffactau o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn dod yn fyw ar Stryd Fawr Bangor ar ddydd Sadwrn, 1 Hydref 2011.

Bydd rhywbeth i’r teulu cyfan gyda chymeriadau sydd wedi eu hysbrydoli gan rai o arteffactau yr amgueddfa gan gynnwys gwyntyll llechi a chragen fawr yn dod yn fyw ar y stryd fawr.

Roedd rhai o’r eitemau hyn yn eitemau bob dydd – y gragen fawr i alw amser mewn cymuned megis pan oedd hi’n amser dod â bara i’r popty i’w bobi neu i adael i gynaeafwyr a oedd yn gweithio yn y caeau wybod ei bod yn amser cinio, tra bod y gwyntyll llechi yn eitem grefft cydnabyddedig sy’n unigryw i’r rhan yma o Wynedd.

Dywedodd Esther Roberts, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gwynedd:  ”Mae’n bosib fod yr eitemau hyn yn ymddangos yn eithaf mympwyol am eu bod yn anghyfarwydd i ni heddiw – felly trwy ddod â nhw yn fyw ar ffurf cymeriadau, gellir rhannu eu stori, eu defnydd a’u lle yn ein hanes mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol y gall yr holl deulu ei fwynhau.

“Bydd arddangosfeydd sylweddol hefyd i’w gweld yng ngerddi’r Amgueddfa ac Oriel Gwynedd a fydd hefyd yn dod ag eitemau yr amgueddfa yn fyw mewn ffordd hwyliog a apelgar. Gobeithio y bydd ymwelwyr rheolaidd yn ogystal a phobl sydd heb ymweld o’r blaen yn dod draw i fwynhau’r amrywiaeth eang o gelf a hanes lleol sydd i’w weld yma.”

Bydd y perfformiad yn cael ei arwain gan yr artist cysyniadol a pherfformiad lleol o Ddyffryn Conwy, Megan Broadmeadow. Mae hi’n gweithio ar arddangosfeydd unigol a chydweithredol, preswyl a pherfformiadau ar draws Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae ei gwaith yn cynnwys gwneud cerfluniadau cyhoeddus yn ogystal â dyfeisio a chynhyrchu sioeau cabaret comedi, brasluniau a ffilmiau byr gyda chriw celf byw, Ffaff.

Mae’r perfformiad ar Stryd Fawr Bangor, sy’n un o nifer o weithgareddau yn y ddinas ar ddydd Sadwrn, 1 Hydref, pryd y bydd yr Illuminata ar yr hen lawnt fowlio yn nodwedd allweddol. Bydd y perfformiad yn dechrau am 1pm ac yn gorffen yng ngardd yr Amgueddfa Gwynedd ac Oriel Gwynedd, Bangor.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i’r teulu cyfan. Dewch draw i fwynhau’r hwyl.

Am fwy o wybodaeth am yr holl weithgareddau sydd ar gael yn Amgueddfeydd sy’n cael eu cynnal gan Gyngor Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.