Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Saunders: portread newydd

Ionawr 13, 2012 12:59


Bydd portread newydd o Saunders Lewis yn cael ei ddadorchuddio mewn canolfan iaith yn Ninbych yng Nghlwyd fis nesaf.

Bydd yr achlysur yn digwydd yng nghanolfan Popeth Cymraeg ar Chwefror 11 – bron union hanner can mlynedd ers i’r ysgolhaig enwog draddodi ei ddarlith radio ysgytwol, ‘Tynged yr Iaith’, ar Chwefror 13, 1962.

Roy Guy – artist o Gasnewydd sy’n gwneud portreadau o fawrion y genedl – sydd wedi gwneud y portread ac wedi’i gyfrannu i’r ganolfan am ddim.

“Fuasai Cymru yn hollol wahanol rŵan oni bai am fodolaeth radio a’r ddarlith radio honno,” meddai rheolwr y ganolfan, Ioan Talfryn.

Mae Roy Guy wedi rhoi portread arall o Saunders Lewis i’r dref o’r blaen – mae’r darlun yn hongian wrth ochr portread o’r awdur Kate Roberts yn Theatr Twm o’r Nant.

 Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 14, 2012 4:17 pm

Dwi’n licio llun.

§

GD , Ionawr 14, 2012 9:16 pm

Llun da. Dwi’n hoffi’r lliw llwyd, sy’n atgoffa rhywun o gwpled Gerallt Lloyd Owen – ‘Ar ei wedd mae ôl breuddwyd, / yn y llais mae pellter llwyd…’. Yn ogystal mae’r tro yn y gwefusau yn awgrymu’r direidi disglair nad oedd byth ymhell o’r wyneb yn ei waith.

§

Fi , Ionawr 15, 2012 10:42 am

Ddim yn llun dyrchafol o SL. Bychanu’r dyn hyn y gwrla i – geneud i Saunders edrych yn lygoden o ddyn, yn ddyn bach eiddil, ofnus. Nid dyna ydoedd ond dyn cryf, lot cryfach na’r rhan fwyaf o bobl ei oes.

§

eirwen haf , Chwefror 3, 2012 11:06 pm

Wel, ‘Fi’ -o’dd yr hen SL ymhell o fod yn ‘oil painting’. Meddwl bo hwn yn bortread caredig a thrawiadol ohono.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.