Clawn albwm 9bach, Tincian
Fe gipiodd y band gwerin adnabyddus 9bach y wobr am albwm y flwyddyn yng ngwobrau gwerin BBC Radio 2 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd neithiwr.

Daeth y band gwerin arbrofol, sy’n hanu o Fethesda, yn fuddugol gyda’i halbwm diweddaraf Tincian.

Dyma’r band cyntaf o Gymru i ennill y gystadleuaeth ers iddi gael ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl. I goroni’r noson, fe gafwyd perfformiad gan 9bach yn ystod y seremoni.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y noson oedd Gwobr Traddodiad Da a gafodd ei wobrwyo i’r diweddar Dr Meredydd Evans a fu farw yn 95 mlwydd oed fis Chwefror eleni.

Derbyniwyd y wobr gan ei ferch, Eluned, a alwodd am greu archif digidol i gerddoriaeth werin yng Nghymru.

Wrth gyflwyno’r wobr, cafwyd teyrnged i Merêd hefyd gan y gantores Cerys Mathews,  pan ddatgelodd ei fod  wedi cael gwybod ei fod wedi ennill y wobr cyn iddo farw ym mis Chwefror, gan ddweud ei fod ar y pryd “wrth ei fodd”.