Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Dadl dros dâl am ganeuon – ‘Angen cyfundrefn newydd’

Tachwedd 2, 2011 22:28


Yn ôl y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, mae’n hawdd dweud mai “nawdd” yw’r ateb i’r ddadl dros daliadau am ganeuon Cymraeg ar y radio “wrth anwybyddu’r ffaith annerbyniol fod Radio Wales yn derbyn 25 gwaith yn fwy o arian am chwarae na Radio Cymru”.

Mae’r dadlau chwerw am y gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon ar Radio Cymru o’i gymharu â BBC Radio Wales yn deillio o “fformiwlâu mesur hynod annigonol PRS” meddai llefarydd ar ran y Sefydliad wrth Golwg360.

“Mae’r gwahaniaeth yma’n deillio’n llwyr o’r ffaith fod artistiaid fel Coldplay a Madonna, sy’n cael eu chwarae ar bob gorsaf arall p’run bynnag, yn amlwg yn yr hyn clywir ar Radio Wales. Mae’n golygu fod cân ar Radio Wales werth 25 gwaith yn fwy i’r artist caiff ei chwarae na chân ar Radio Cymru,” meddai.

Barn gwleidyddion?

Eisoes, mae Gai Toms wedi tynnu sylw at ffigyrau sydd wedi dod i’w sylw sy’n amlygu’r gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon 3 munud ar Radio Cymru o’i gymharu â Radio Wales. Yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law Gai Toms, mae’n costio £5.75 i chwarae cân 3 munud ar Radio Cymru, a £147.85 i chwarae cân 3 munud ar Radio Wales.

Mae Gai Toms wedi postio neges ar wefannau Twitter gwleidyddion a sefydliadau gwahanol yn ogystal â Facebook – ar ôl derbyn y wybodaeth ar E-bost. Mae’n awyddus i wybod beth yw barn gwleidyddion a “beth maen nhw am wneud” amdano, meddai wrth Golwg360.

Hefyd, roedd Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn wedi dweud wrth Golwg360 bod angen rhoi “pwysau ar y cwmni sy’n casglu’r arian” sef PRS for music.

Ond, fe ddywedodd PRS wrth Golwg360 ddoe bod rhaid i’r  ateb am y gwahaniaeth mewn taliadau i gerddorion Cymraeg am ganeuon sy’n cael eu chwarae ar orsafoedd gwahanol ddod ar “ffurf nawdd” o ffynonellau fel y “Llywodraeth neu’r Undeb Ewropeaidd.”

“Fedri di ddim disgwyl i gyfansoddwr  yn Northumberland roi darnau o’i freindal  i dalu rhywun yng Nghymru oherwydd bod nhw’n canu yn Gymraeg. Job Llywodraeth ydi hynny  – nid job PRS,” meddai John Hywel Morris, PRS for music wrth Golwg360.

‘Annigonol’

Yn ôl llefarydd ar ran y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig heddiw – mae’r “sefyllfa’n dangos fod angen cyfundrefn newydd i ddelio a Chymru gan fod PRS wedi profi’n annigonol ers blynyddoedd.”

“Yn 2006 rhoddodd y Gynghrair restr o 200 o leoliadau i PRS oedd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg nad oeddent hyd yn oed yn eu bilio heb son am eu samplo. A roddwyd un ohonynt ar eu sampl, sampl sy’n dynodi lle mae bron yr holl arian am y caneuon sy’n cael eu chwarae ar y  radio’n mynd? Naddo wrth gwrs, nac ychwaith unrhyw leoliad oedd PRS yn eu trwyddedu yn barod. Canlyniad hyn oedd mwy o arian yn mynd allan o Gymru a llai fyth yn dod i mewn.

“Mae taliadau ar gyfer gorsafoedd cenedlaethol Cymru yn dibynnu’n llwyr ar yr hyn sy’n cael ei samplo mewn clybiau a bwytai a gorsafoedd radio eraill yn Lloegr, sy’n gwbl annheg ac annerbyniol. Cymrir yn ganiataol nad oes llawer o sylw i’r hyn caiff ei chwarae yn Ffrainc neu Rwsia pan mae PRS yn dosbarthu eu harian i’w haelodau Seisnig er enghraifft. Mae’r sefyllfa’n dangos fod angen cyfundrefn newydd i ddelio a Chymru gan fod PRS wedi profi’n annigonol ers blynyddoedd.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd Iwan , Tachwedd 3, 2011 10:37 am

Fel gyda phob pwnc dyrys arall, rhaid deall sut mae’r system yn gweithio, a’r ffaith syml yw nad oes gan gyrff hawlfraint Prydeinig fel y PRS systemau sy’n deall y sefyllfa Gymraeg, heb son am gydnabod hawliau cyfartal ieithoedd lleiafrifol. Dyma pam y ffurfiwyd Cynghrair Cyfansoddwyr a Chyhoeddwyr Cymru, ac onibai am y consesiynau bach a enillwyd, byddai’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Yr unig ateb yn y pen draw yw corff hawlfarint i Gymru, ond mae sawl peth y gallwn wneud yn y cyfamser; nodaf dri yn unig:
1. gwneud yn siwr fod y PRS/MCPS a’r PPL yn cael gwybod am bob can a genir ym mhob perfformiad byw yng Nghymru
2. gwneud yn siwr eu bod yn cael gwybod am bob man sy’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn gyhoeddus
3. Radio Wales i chwarae mwy o gerddoriaeth Cymru – yn y ddwy iaith….

§

Hefin , Tachwedd 3, 2011 11:06 am

Hollol gywir Dafydd. Ond i adio at bwynt 3, petai Radio Wales yn chwarae cerddoriaeth Saesneg neu Gymraeg o Gymru yn hytrach na’r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd posibl byddai taliadau Radio Wales yn dymchwel hefyd, gan nad yw’r gerddoriaeth yna yn cael ei chwarae’n gyhoeddus yn Lloegr neu ar orsafoedd radio eraill. Swnio’n gwbl afresymol tan i chi sylwi pwy sy’n elwa o’r fath gyfundref.

§

irfon , Tachwedd 3, 2011 2:55 pm

Os fasa Radio Wales yn chwarae cerddoriath Cymru yn y ‘ddwy iaith’ fasa Radio Cymru yn chwarae cerddoriaeth Cymru yn y ‘ddwy iaith’ hefyd? Swnio’n ffer i mi.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 3, 2011 4:57 pm

Be am i ni ddechra fo Radio CYMRU yn chwara caneuon yn y GYMRAEG….. os dwi isho clwad Take THat a Rihanna gallai droi at aryw o orsafoedd ar hyd a lled y deials…. lle arall gewn ni gerddoriaeth GYMRAEG? Mae’r cliw yn y teitl Radio CYMRU….

Sa rhywun yn medru dadla bod Radio wales yn chwara llawn gymaint o gerddoriaeth GYMREIG ar raglenni Chris Needs, Frank Hennesy, Graf pan odd o’n fyw a Roy Noble….. os nad yn fwy nag odd Dylan a Meinir a lot o raglenni presennol ar C2….

§

irfon , Tachwedd 4, 2011 11:13 am

Mwy o sylwadau wedi diflannu…bedi’r blydi pwynt ymateb? Ta ta.

§

Owain Schiavone , Tachwedd 4, 2011 11:50 am

@irfon

Sylwadau wedi eu hadfer – darllenwch y canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhwydweithiol Golwg360′ i weld eglurhad ynglŷn â pham eu bod yn diflannu nawr ac yn y man (dylai pawb ddarllen hwn cyn dechrau gadael sylwadau yn y lle cyntaf wrth gwrs).

Diolch
Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360

§

Osian , Tachwedd 4, 2011 9:09 pm

Gerwyn – trwy gydol y dydd, dim ond caneuon Cymraeg sydd ar RC (ac eithrio Beti a’i Phobl ac ati), natur y caneuon hynny ydi’r broblem, ond sgwarnog arall ‘di honno!

Ar C2, dwi’n meddwl fod ‘na ddadl dros chwara caneuon Cymraeg ochr yn ochr â rhai Saesneg – dwi’n tybio fod lot mwy o blant ysgol yn debygol o wrando ar Dodd.com er enghraifft os ydi caneuon Cymraeg yn gymysg a rhei Saesnag (ia, rybish y siartiau yn yr achos yma). Mewn rhaglenni mwy ‘arbennigol’ wedyn, ma’r caneuon Saesneg yn tueddu i fod yn rhai chydig mwy amgen.

§

Osian , Tachwedd 6, 2011 3:15 pm

Reit, mi nesh i sylw ar hwn diwrnod o’r blaen, ac rwan mae o wedi diflannu. Nesh i ddim torri’r un o’r canllawiau – felly ydi o wedi mynd am fod 2 berson wedi pwyso ‘camddefnydd’ am ryw reswm? Os mai dyna ddigwyddodd, mae wir angen system newydd, achos ma modd camddefnyddio’r un yma yn rhy hawdd o lawer.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.