Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Cyngor Celfyddydau am hybu diwydiant cerddoriaeth Cymru

Ionawr 5, 2012 16:17, Diweddarwyd am 16:34



Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu rhoi “buddsoddiad mawr iawn” i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n cynnal ymgynghoriad ar gronfa ariannol newydd sef ‘Arian i Ddatblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth’ ac yn croesawu sylwadau i’r ddogfen ddrafft.

Cronfa yw hi “mewn ymateb i dlodi’r gefnogaeth i fathau heblaw am opera a cherddorfeydd mawrion.” Mae’n cael ei ystyried yn newyddion da i gerddorion Cymraeg yn sgil gostyngiadau sylweddol sydd wedi bod yn nhaliadau PRS yn ddiweddar.

Nid yw’r Cyngor yn gallu dweud faint yn union fydd maint y gronfa nes iddo gyfarfod ar Chwefror 3.

“Dw i eisiau iddo fod mor uchel â phosib,” meddai Einion Dafydd, Uwch Swyddog Cerddoriaeth y Cyngor, wrth gylchgrawn Golwg. “Po fwyaf cadarnhaol fydd yr ymateb, uchaf yn y byd fydd o. Mae eisiau buddsoddiad mawr iawn.”

Pwy fydd yn elwa?

Yn ôl y ddogfen, y math o gerddorion a sefydliadau a fydd yn debygol o elwa ar yr arian fydd

  • cerddorion yng Nghymru gyda hanes cryf o gyflawni
  • mentrau sy’n buddsoddi mewn cerdd newydd o Gymru
  • y rhai sy’n creu neu gomisiynu cerddoriaeth wreiddiol a heriol
  • y rhai sydd am ddatblygu ffyrdd arloesol o hybu cerdd Cymru i gynulleidfaoedd
  • y rhai sy’n chwilio am ffyrdd i gymryd eu cerddoriaeth at gynulleidfa ryngwladol neu eu menter i farchnad felly
  • y rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i wneud bywoliaeth gynaliadwy o’u cerddoriaeth.

Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghorol ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru ac anfon eich sylwadau at ymateb@celfcymru.co.uk erbyn Ionawr 25.

Darllenwch y stori yn llawn yn rhifyn Golwg yr wythnos yma

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Ionawr 5, 2012 5:04 pm

Galwaf ar Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu (e.e. barn gref gyhoeddus gan un o’r arweinwyr) i drio cynnal ein Prifwyl yn Lloegr rhywbryd yn y dyfodol.
Bydoedd Cymraeg newydd mentrus. Cymryd risg. Camu i lwyfan newydd. Brwydr gerddorol seicolegol y mae’n rhaid ei hennill. Doed a ddelo.
Glawied neu beidio. Welingtons neu sandalau!
Dyma i chi rai sylwadau ychwanegol:
http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/dweud_eich_dweud/pages/martin_williams.shtml

§

eirwen haf , Ionawr 12, 2012 10:54 pm

Ddim yn deall rwdlan y boi uchod…?!

Nawr ar y testun dan sylw-swnio’n beth da iawn-jyst gobeithio bydd gwir dalent newydd yn cael siawns hefyd. Nid jyst yr un wynebau sy’n arbenigwyr ar ennill grantiau/dyfarniadau o’r tath.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 16, 2012 3:45 pm

EH-methu gweld yn bellach na’ch trwyn? Trist iawn.
Bu Gwlad y Gan yn rhy dwp, cul a di-glem i drio cynnal y Brifwyl yn Lerpwl…Mae hyn yn drewi ac yn staen ar Gymreictod.
Dwi am gario ymlaen i guro’r drwm hyd nes y bydd rhai elfennau y tu mewn i’r diwylliant Cymraeg yn ymaeddfedu a rhannu a dathlu cerddoriaeth-heb ffiniau cul.

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Ionawr 18, 2012 9:15 am

Sut fydd y Brifwyl yn cael cefnogaeth gan gynghorau sir o Loegr? Mae’n ddigon o dric cael cefnogaeth yng Nghymru!

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 19, 2012 3:20 pm

Cwestiwn da. Collwyd chwarter cyfle i’w chynnal hi yn Lerpwl yn 2007. Efallai y byddai pres wedi dod o Lerpwl/Ewrop (dinas diwylliant) bryd hynny.
Y dyfodol. Symud ymlaen- rhaid ffendio arian o rywle. Nid yw’r cyfnod o gyni ariannol yn mynd i bara am byth.
Cwningen o het- os yw ee rhai ym Mhlaid Cymru yn ddigon aeddfed a hirben i ddadlau dros annibyniaeth yna rhaid iddynt hefyd fod yn ddigon craff i ddadlau dros gynnal y Brifwyl eto rhywle yn Lloegr.
£ neu Ewro. Pot pres o Gymru, Lloegr neu Frwsel…Amser a ddengys.
Sylwadau difyr gan fyfyrwraig yn Llundain (tud.7)-cylchgrawn Golwg heddiw. Mae tud. 21 hefyd yn ddifyr:
http://www.sadwrn.com “Ffan Meinir Gwilym yn Rwsia”… Pryfoclyd a diddorol.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.