Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Brysiwch i gystadlu!

Ionawr 7, 2012 11:16


Enillwyr y llynedd
Os nad ydych wedi anfon eich cân at drefnwyr cystadleuaeth Cân i Gymru eleni, does dim llawer o amser ar ôl!

Mae S4C am atgoffa cyfansoddwyr bod yn rhaid iddyn nhw anfon eu ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 cyn y dyddiad cau Ddydd Llun nesaf, 9 Ionawr.

Mae’r cynhyrchwyr Avanti yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cael ymateb da i’r gystadleuaeth a fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Mawrth eleni.

Yr abwyd yw gwobr o £7,500 a’r anrhydedd o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf.

Mae Avanti yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

Bydd wyth cân yn cael eu dewis ar restr fer gan reithgor o arbenigwyr gydag Owen Powell, gynt o’r band Catatonia, yn cadeirio. Bydd yr wyth cân yn cystadlu mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.

Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 149 neu canigymru2012@avantimedia.tv

Y cerddorion Steve Balsamo ac Ynyr Roberts oedd yn fuddugol yn 2011 gyda’r gân Rhywun yn Rhywle. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson.

Yn dilyn llwyddiant Rhywun yn Rhywle yn Cân i Gymru, profodd y gân fuddugoliaeth bellach yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon gan gipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd annwyl , Ionawr 9, 2012 10:03 am

Edrych ymlaen at glywed fwy o gachu rwtsh wedi ei gôr gynhyrchu. Pryd mae avanti am sylweddoli mai cystadleuaeth fechan yng Nghymru di hwn, nid y blydi X Factor.

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 9, 2012 1:30 pm

Y wobr fawr ? – cael cystadlu yn erbyn neb, o flaen neb, yn nunlle ! .

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Ionawr 9, 2012 4:01 pm

Gesiwch pwy fydd ar y panel…neu yn canu hanner amser? OMA neu Rhydian falla? Amsar i’w rhoid yn y cwpwrdd am byth…… lladdwch y peth dibwrpas hwn a chynnig cyngerdd mawreddog Gwyl Dewi er mwyn Duw…. o ahynny heb Avanti yn gyfrifol….. neu fydd ei hannar yn Saesneg…

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.