Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



‘Gobaith’ dros gynnal Gŵyl Jazz Aberhonddu eleni

Ionawr 17, 2012 08:39


Efallai y bydd Gwyl Jazz Aberhonddu yn cael ei chynnal eleni, meddai Cyfeillion yr Ŵyl mewn cylchlythr.

Mae Cyfeillion Gŵyl Jazz Aberhonddu “mewn cysylltiad cyson” â Chyngor Sir Powys a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ôl i drefnwyr Gŵyl y Gelli dynnu nôl ‘chydig o fisoedd yn ôl.

Er bod “gobaith” o gynnal yr wyl eleni, does dim sicrwydd o hynny, meddai’r Cyfeillion mewn datganiad ond “yn sicr” bydd yn cael ei chynnal yn 2013.

“Mae’r grŵp yn teimlo’n gadarnhaol iawn sy’n rhoi sail gref i ni fod yn optimistig,” meddai’r Cyfeillion  sy’n dweud bod “nifer o hyrwyddwyr” wedi dangos diddordeb yn yr Ŵyl.

‘Siomedig’

“Ro’n i’n siomedig pan glywais i am Ŵyl y Gelli yn tynnu nôl,” meddai Rob Froud, un o gyfeillion yr Ŵyl wrth Golwg360.

“Er nad oedd yr Ŵyl yn berffaith yn y flwyddyn gyntaf, roedd pethau’n edrych llawer gwell y llynedd,” meddai,  cyn dweud bod rheolaeth Gŵyl y Gelli o’r ŵyl wedi bod yn “broffesiynol.”

“Dw i’n dychmygu bod y rhan fwyaf o bobl yn siomedig iawn – yn arbennig os oedden nhw’n meddwl fel yr oeddwn i – fod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd gŵyl yn 2013. “Does dim i’w gymharu â Gwyl Jazz Aberhonddu,” meddai gan gyfeirio at “gymeriad ac arlwy” yr Ŵyl.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.