Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Canolfan yn talu teyrnged i diwtor ifanc

Ionawr 23, 2012 08:16


Galeri Caernarfon
Fe fydd Canolfan Gerdd William Mathias yn talu teyrnged i Ben Muskett a fu’n ysbrydoli pobl ifanc fel tiwtor cerdd.

Cafodd Ben Muskett, 25 oed, ei ladd mewn damwain car fis Ionawr y llynedd.

Roedd Ben, o Fethesda yn wreiddiol yn Bennaeth Cerdd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ac yn Diwtor Piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

Yng Nghyngerdd Ben, bydd rhai o’i gyd-diwtoriaid a rhai o’i ddisgyblion yn dod at ei gilydd mewn cyngerdd mawreddog i “dalu teyrnged i’r athro ifanc fu’n gymaint o ysbrydoliaeth.”

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Gronfa Canolfan Gerdd William Mathias er cof am Ben, i hybu cerddorion ifanc.

Ymhlith y cyfranwyr bydd Iwan Llewelyn-Jones (piano), Côr Siambr CGWM (arweinydd Jenny Pearson) Elinor Bennett (telyn) a Rhiannon Mathias (ffliwt), Glian Llwyd & Sioned Webb (deuawd), Patrick Rimes (ffidil), a  Evy King (piano), Lowri Preston (cello) a Aeron Preston (piano), Gwenno Morgan (piano).

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal am 7.30pm, 3 Chwefror yn Theatr Galeri Caernarfon.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.