Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Cynnydd yng ngwerthiant Sain er gwaetha’r dirwasgiad

Ionawr 23, 2012 10:32


Tri Tenor Cymru
Er gwaetha’r dirwasgiad economiadd, mae gwerthiant cyffredinol  cwmni Sain (Recordiau) Cyf wedi cynyddu 10%, a throsiant y cwmni i fyny 16.6% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn ol ffigyrau’r cmwni am y 3 mis hyd at y Nadolig.

“Yr hyn sy’n drawiadol yw’r cynnydd mewn gwerthiant CD,” meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain.

“Er bod y duedd fyd-eang yn dangos lleihad cyson mewn gwerthiant CD, mae ein gwerthiant CD ni eleni i fyny 3.6%, ond eto mae ein gwerthiant lawrlwytho digidol i fyny gymaint â 45%!” meddai.

Tri Tenor a John Owen-Jones

Yn ôl y Prif Weithredwr, mae llawer o hyn yn codi o lwyddiant artistiaid fel Tri Tenor Cymru a’r seren West End John Owen-Jones, a’r “diddordeb parhaol byd-eang yng nghorau Cymru.”

“Mae llwyddiant ein polisi o drwyddedu cynnyrch Cymraeg a Chymreig i labeli eraill ar draws y byd hefyd wedi ychwanegu at ein hincwm fel cwmni, a gobeithiwn ehangu ar hyn yn ystod ein hymweliad â MIDEM – y ffair fasnach ryngwladol ar gyfer cerddoriaeth yn Cannes ddiwedd y mis.”

Mae siop y cwmni yng Nghaernarfon, Na-Nog hefyd yn dangos cynnydd da, sy’n groes i’r hyn sy’n digwydd mewn llawer o siopau’r Stryd Fawr, meddai.

“Yn y tri mis hyd at y Nadolig, cododd ei gwerthiant 14.65%, ac roedd ei ffigyrau am fis Tachwedd y gorau yn hanes y siop.”

DVD

Yr unig nodyn o siom yn yr adroddiad, yn ôl y Prif Weithredwr, oedd y ffigyrau gwerthiant DVD, oedd i lawr 13% dros y 3 mis.

“Mae’r rhan fwyaf o’n cynnyrch yn apelio at blant,” meddai Dafydd Roberts, “ond mae fformat y DVD yn dioddef y dyddiau hyn, yn bennaf am ei bod mor hawdd i recordio oddi ar y teledu. Bydd rhaid inni edrych eto ar y maes hwn a gweld os allwn ni ddatblygu cynnyrch sydd ddim i’w weld mor barod ar deledu.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 23, 2012 7:32 pm

y Tri Tenor yn hollol wych ! Sioe Llundain tip top.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 24, 2012 3:46 pm

Os yw Sain eisiau symud i fyny ger eto a dangos mymryn o weledigaeth yna rhaid i’r cwmni ddadlau yn gyhoeddus dros y syniad o gynnal y Brifwyl rhywle/rhywbryd yn Lloegr.
Ond dyna fo….tybiaf/ofnaf nad yw meddwl tu allan y bocs yn gryfder amlwg gan rai cenedlaetholwyr.
Ond clod i Sain am gyfraniad amhrisiadwy i gerdd Cymraeg.
Beth am gynnal y Brifwyl yn Llanymynech?? Wel wir…dyma fyddai chwyldro!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.