Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Y Faenol yn ôl, ond nid yng Nghymru

Ionawr 23, 2012 18:16


Bryn Terfel
Mae’r canwr byd-ewog a sefydlydd Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yr ŵyl fawreddog yn cael ei chynnal eto eleni, ond nid yn ei chartref traddodiadol ar Ystad y Faenol ger Bangor.

Pedair blynedd ers i’r ŵyl gael ei chynnal ddiwethaf, fe gyhoeddodd y baritôn o Bantglas ar ei gyfri Twitter heddiw y byddai’r Faenol yn dychwelyd yn 2012, ond i lwyfan yn Llundain y tro hwn.

“Bydd Gŵyl y Faenol yn dychwelyd ym mis Gorffennaf am bedair noson, ychydig cyn y Gemau Olympaidd,” meddai yn ei neges.

“Dim gwybodaeth ar gael eto, ond llond trol o syniada,” addawodd Bryn Terfel, gyda “phedair noson” o ŵyl ac “artistiaid di-ri gobeithio.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Southbank yn Llundain am bedair noson rhwng 4 a’r 7 Gorffennaf eleni, ac yn rhan o’r Olympiad Diwylliannol.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth pop, gan artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg, sydd i’w cyhoeddi yn yr wyhnosau nesaf.

Dywedodd Bryn Terfel heddiw y byddai’r ŵyl yn cynnig “llwyfan i Gymru cyn y Gemau Olympaidd,” ac mae disgwyl i’r ŵyl gynnwys digwyddiadau darllen barddoniaeth, gweithdai iaith Gymraeg a marchnad fwyd Cymreig, yn ogystal â gweithdai cerddorol.

Hon fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y trafferthion ariannol a darodd yr ŵyl yn ôl yn 2008.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 23, 2012 7:26 pm

Well done Bryn, a peidied neb a’i feirniadu am beidio cynnal yr wyl yng Ngogledd Cymru – doeddech chi ddim moyn prynu’r tocynnau !

§

Jones , Ionawr 23, 2012 7:53 pm

Allaim gweld lot o bobl Llundain eisiau mynd i Tan y Ddraig!!

Ac Ifor: y rheswm odd neb yn prynnu tocynnau yw oherwydd oedd yr artistiaid mor random. Westlife dwy waith, Shane Ward, Al Murray the comedy bar man.

§

Gerwyn Preis , Ionawr 23, 2012 8:42 pm

Mr T ddim yn gwerthu digon o CD’s ac yn troi at Lundan i odro’r gynulleidfa a rhoid arian yn ei bocad…..siom fawr wir ond dim lot o syndod….. dim diolch i’r bobl leol nath fynd i’w pocedi DROEON i’w gefnogi fo……!!

Gwyliwch y gofod i weld cyn lleied o Gymry CYMRAEG fydd yn perfformio yno………. Glanaethwy mwn….achos fod un o’i blant yno….ond pwy arall…jest mwy o’r ‘ser’ honedig sydd yn ymddangos ar S4C….. Rhydian, OMA a ballu?

§

CGT , Ionawr 23, 2012 10:20 pm

Bobl bach , Gerwyn , ydi o yn y Radio Times yn barod ?
Sut wnaethoch chi ddyfalu’r cynnwys mor gywir ?

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Ionawr 23, 2012 10:48 pm

Dyfalu ydw i CGT bach…….. sgen i’m ffynhonnell….dim ond amau mai dyma fydd yn digwydd…..cwmni teledu Cymraeg yn ffilmio a’r un hen dafell o fara’n cael ei dynnu o’r bin i neud y brechdana’…..

§| Nodi camddefnydd

Llew , Ionawr 23, 2012 10:53 pm

Sdim isho gweld yn bell beth fydd yr arlwy dros yr Haf ar S4C…….y cyngerdd Bryn Terfel yn ecsgliwsif yn ei holl ogoniant yn cynnwys OMA, Rhydian a Sian Cothi. Mark my words! Dwi wedi gosod y sylfeini i’r Prif Weithredwr newydd yn barod!

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 23, 2012 11:11 pm

A be well na Stiffyn Parry , Huw Edwards a Sian Lloyd i ymuno yng nghorws ‘ Rule Brittania ‘ gyda Bryn ?

§

Gerwyn Preis , Ionawr 24, 2012 8:16 am

A paid ag anghofio’r ‘in vogue’ John Owen Jones a’r tri Clown…sori Tenor…….. ac wyt ti’n iawn Llew…dyna’i gyd gawn ni yn arlwy ar gyfer gweddill y flwyddyn……

CGT……. Oes, ma na beth wmbrath o debygrwydd i’r Proms am yr holl beth ma…… Aled Jones hefyd ma’n siwr….. Tydan ni di laru gweld y rhain a DIM ond rhain ‘dwch…..cofiwch, ma’n siwr fydd na wagle ar gael i ennillydd Llais i Gymru hefyd !!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 24, 2012 8:40 am

Blydi hell Gerwyn ti’n ddyn chwerw ma’r tri tenor yn wych !

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Ionawr 24, 2012 9:04 am

O tyd o na Ifor…..arian am hen raff fel sa’r sais yn ei ddeud….. ! Nid chwerw ydi o ond blinder o’r holl ddiffyg menter….. pethe symol ar y naw……

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Ionawr 24, 2012 9:32 am

Gerwyn -mi rwyt ti yn llygad dy le! Run hen sothach diflas!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 24, 2012 10:29 am

Gerwyn beth am i ti wneud rywbeth ? Back seat driver – eunuch at an orgy – fyw na pharod i feirniadu eraill ond methu gwneud dim dy hyn – well done y Tri Tenor

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.