Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Gŵyl y Faenol yn Llundain – ‘newydd siomedig’

Ionawr 24, 2012 11:18


Bryn Terfel
Mae cerddor sydd wedi cefnogi Gŵyl y Faenol yn y gorffennol wedi dweud ei fod yn “siomedig” yn dilyn y newydd diweddaraf am gynnal yr ŵyl yn Llundain eleni.

Daw sylwadau Dafydd Iwan ar ôl i’r canwr byd-enwog a sefydlydd Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel, gyhoeddi ddoe y bydd yr ŵyl fawreddog yn cael ei chynnal eleni, ond nid yn ei chartref traddodiadol ar Ystâd y Faenol ger Bangor.

Pedair blynedd ers i’r ŵyl gael ei chynnal diwethaf, fe gyhoeddodd y bariton o Bantglas y byddai’r Faenol yn dychwelyd yn 2012, ond i lwyfan yn Llundain y tro hwn.

Hon fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y trafferthion ariannol a darodd yr ŵyl yn ôl yn 2008. Bydd yr ŵyl yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth bop, gan artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg, sydd i’w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Fe fydd yr ŵyl yn  cael ei chynnal rhwng 4-7 Gorffennaf fel rhan o Ŵyl y Byd Canolfan Southbank, meddai’r Ganolfan mewn datganiad.

‘Rhoi rhywbeth yn ôl?’

“Rhan ganolog o Ŵyl y Faenol oedd ei lleoliad hi,” meddai Dafydd Iwan wrth Golwg360.

“Pwrpas mawr Bryn Terfel oedd rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal yma. Os ei chynnal hi yn Llundain mae hynny i gyd yn mynd.

“Ein blaenoriaeth ni sy’n gweithio yn y byd cerdd yng Nghymru yw sicrhau bod y llwyfan yng Nghymru.

“Wrth gwrs bod eisiau llwyfan rhyngwladol, ond adeiladu cyfleoedd yng Nghymru yw’r prif bwrpas i ni,” meddai’r canwr oedd yn dweud bod y newydd yn “siomedig.”

Fe ddywedodd Ywain Myfyr, trefnydd gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau na “allai feddwl am drefnu Sesiwn Fawr yn Llundain. Rydan ni’n trio rhoi adloniant i’n pobol ein hunain,” meddai.

“Mae ‘na ddigon o waith cenhadu yn ein gwlad ein hunain a chael pobl i wrando ar gerddoriaeth ni’n hunain. Dw i’m yn gweld pwynt hyn.”

“Alla’ i ddim gweld bysus yn mynd o Sir Fôn fel oedden nhw i’r Faenol yn llawn aelodau cymdeithasau lleol – allai i ddim gweld nhw’n trefnu bys yn mynd i’r Southbank Centre – yn enwedig yn ystod yr hinsawdd economaidd yma.

“Fwy na bod yr Olympics yn stori Gymreig – dw i’m yn meddwl bod egwyddor Faenol bellach yn stori Gymreig.”

‘Sylw i artistiaid Cymraeg’

Ond mae’r cerddor Arfon Wyn yn cefnogi’r newyddion.

“Dw i’n meddwl bod o’n beth reit dda. Mae’r ŵyl wedi bod yn stryglo… Mewn ffordd, mae’r ŵyl mewn trafferthion yn yr ardal yma beth bynnag. Mae’n beth da os caiff artistiaid Cymraeg sylw gan fod yr Olympics yn dod yna.

“Mae’n un ffordd i Gymru gael ei chydnabod achos caiff Cymru ddim ei chydnabod yn yr Olympics,” meddai.

“Neith o ddim drwg iddyn nhw wneud sbloets yn Llundain.

“Wnes i fwynhau gŵyl Radio 1 yn y Faenol lot mwy na Tan y Ddraig – roedd gen ti lot o grwpiau da Cymreig newydd yn yr ŵyl Radio 1 fel Masters in France. Tydi’r Faenol ‘rioed di bod yn hollol Gymreig, maen nhw wedi cael grwpiau fel Westlife.

“O leiaf geith Cymru sylw cyn yr Olympics – cheith hi ddim fel arall.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Ionawr 24, 2012 12:05 pm

“Bydd yr ŵyl yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth bop, gan artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg, sydd i’w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.”
Mwya’n byd o gerdd+geiriau CymrAEg=gorau’n byd!
Os yw DI yn derbyn gwahoddiad i ganu yn Gymraeg yna dylai dderbyn!
Ylwch-mae Cymru yn sdyc i Loegr. Saesneg ydi iaith rymusaf y byd. Mae pethau bach fel yma (trio atgoffa Lloegr a’i phobl fod y Gymraeg yn rhywbeth byw) yn bwysig. Hwb seicolegol.
Tir Cymru ydi’r flaenoriaeth i fiwsig Cymraeg. Byddai pawb call yn derbyn hyn am wn i. Ond dwi ddim eisiau gweld Gwlad y Gan yn creu ffiniau cul di-angen tu fewn i’r seici Cymraeg.
Bydoedd Cymraeg cyffrous a mentrus-meddwl y tu allan i’r bocs.
Fe wyr pobl fel DI yn iawn mai anghyson iawn, iawn ydi ymwybyddiaeth Joe Bloggs Lloegr o fodolaeth yr iaith Gymraeg. Os ydi’r wyl yma yn mynd i wella’r sefyllfa yna da iawn ddyweda i. Ni fydd chwyldro-ond mae pob mymryn yn help.
Cymry Rhyngwladol fel BT, Rhys Ifans a.y.y.b.-nid lol yw credu fod ganddynt rywfaint o “bwer iaith” i hybu’r Gymraeg.
Paham nad yw rhai mewnfudwyr i Gymru o Loegr yn dewis dysgu a defnyddio’r Gymraeg? Wel, tasa nhw’n fwy ymwybodol o’i bodolaeth CYN iddyn nhw symud yma yna byddai’r bobl yma yn fwy tebygol o gychwyn ar y siwrne “iaith/pont”. Unwaith eto- ni fydd chwyldro ond mae pob mymryn yn help!
Nid oes gen i ddiddordeb mewn diwylliant Cymraeg sy’n rhy fewnblyg a mewnsyllgar!
Y dasg nawr i garedigion yr iaith ydi NID cwyno am y lleoliad ond yn hyrach dadlau dros cyn gymaint a phosibl o Gymraeg yn ystod yr wyl!

§

Gwilym Prydderch , Ionawr 24, 2012 12:30 pm

Enghraifft arall o’r Olympics ddiawl yn sugno pob dim i’r bogail Llundeinig – ac nid o’r gwledydd Celtaidd yn unig; gwn am gyfeillion mewn rhannau o Loegr sydd wedi cael llond bol ar y peth. Diolch i Dduw na chafon nhw Gwpan y Byd hefyd, ne ni fasa ni ar ein gliniau yn ddiwylliannol ac economaidd tan ganol y ganrif.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 24, 2012 2:18 pm

Menter masnachol yw hyn sydd mynd i fod o fudd i Gymru. Bydd cerddordion o Gymru yn cael ei talu a phroffeil cerddoriaeth Gymreig yn cael ei godi . Pam fod Dafydd Iwan yn elyniaethus i bopeth fel hyn ? Yn hytrach ddylai Sain fentro ei hunain i wneud rywbeth .

§| Nodi camddefnydd

Tu Hwnt , Mawrth 20, 2012 12:09 pm

Fel rhywun sydd wedi bod yn byw yn Llundain ers 4 mlynedd bellach dyma’r tro cyntaf i mi weld unrhywbeth cyhoeddus (h.y. tu allan i Ganolfan Cymry Llundain) sy’n hybu Cymru o fewn Llundain, un o ddinasoedd mwyaf y byd sy’n denu miliynau o dwristiaid ac sydd ar ein stepen drws.

Tra fod hysbysebion gwych o gwmpas gorsafoedd trenau Llundain i ddenu pobl i Gaeredin, Rhydychen ac Iwerddon, toes na’r un hysbyseb i mi ei weld am Gymru.

Pam fasai unrhyw un yn gwrthwynebu hyn? Pobl megis Dafydd Iwan sydd yn llusgo Cymru yn ol i’r gorffennol ac fydd yn sicrhau fod delwedd rhyngwladol Cymru yn un gwan ac anghyfarwydd i fwyafrif o boblogaeth y byd.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.