Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Yr Eisteddfod yn cyhoeddi toriadau o £200,000

Tachwedd 26, 2011 16:16


Yr Eisteddfod yn gorfod ymateb i'r cymylau duon ariannol
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd yn torri £200,000 yn ei gwariant o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Daw hyn ar ôl cadarnhad yng Nghyngor yr Eisteddfod heddiw i Brifwyl Wrecsam wneud colled ariannol o £90,000 – bron ddwywaith y golled o £47,000 a wnaed ym Mlaenau Gwent y llynedd.

“Bu’n flwyddyn anodd i’r Eisteddfod fel cynifer o sefydliadau eraill, oherwydd hinsawdd economaidd y wlad,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Cafodd hyn effaith ar incwm tocynnau cyngherddau, stondinau a nawdd corfforaethol, a thrwy hynny, gwnaethpwyd colled o 4 y cant eleni.

“Llwyddwyd i reoli gwariant yr Eisteddfod ac unwaith eto eleni nid yw’r golled yma’n arwydd o unrhyw gamreoli gwariant.”

Mewn ymateb i’r colledion hyn rhoddodd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod sêl bendith i’r arbedion neithiwr.

Gan gydnabod y bydd yr arbedion yn arwain at “newidiadau gweledol” o’r flwyddyn nesaf ymlaen, dywedodd Elfed Roberts fod y Tîm Rheoli’n gweithio ar y manylion ar hyn o bryd.

“Y prif amcan yw gwarchod gweithgareddau diwylliannol y Brifwyl a diogelu staff,” meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Hedd , Tachwedd 26, 2011 6:04 pm

Dwi’n credu mai’r peth amlwg i wneud ydy torri gwariant ar bethau sydd/oedd eisoes yn bodoli ac yn cael eu darparu gan fudiadau a grwpiau eraill beth bynnag, ac i’r steddfod ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar y brif faes, gan adael i ‘ffrinj’ naturiol dyfu o amgylch yr wyl.

Mae mudiadau eraill ers degawdau eisoes wedi bod yn trefnu gigs i bobl ifanc a pobl hŷn, yn ogystal a dramau ayb yn ystod wythnos yr eisteddfod, heb gymorth unrhyw grantiau, felly beth yw’r pwynt i’r steddfod wario arian mawr (a gwneud colledion mawr fel arfer) ar MaesB a MaesC? Dylid mynd yn ol i ddarparu maes carafannau a maes gwersylla ieuenctid yn unig a gadael i fudiadau eraill drefnu’r adloniant gyda’r hwyr.

§

Caerwyn D , Tachwedd 26, 2011 10:52 pm

@Hedd ti’n dweud y gwir – oes wir angen wario mawr ar MaesB a Maes C pan mae Cymdeithas ag eraill yn darparu adloniant werth chweil.

§

Llinos , Tachwedd 27, 2011 11:15 am

Cytuno gyda Hedd, mae’n amlwg nad yw’r cyngherddau nos yn y pafiliwn wedi bod yn llwyddiannus.

Dylai’r cyngerddau nos fod yn ddathliad o’r ardal gyfan. Beth am roi’r nosonweithi i ofal mudiadau megis aelwydydd, clybiau ffermwyr ifainc, yr ysgolion cynradd ac uwchradd. Cyfle i bod mudiad serenni, a byddai nosweithi o’u math yn sicr o ddenu teuluoedd a ffrindiau o gymunedau’r fro. A chan y byddai’r costau’n isel, gellir gostwng pris mynediad yn sylweddol.
Byddai hyd yn oed modd i’r mudiadau/ysgolion helpu i werthu’r tocynnau.

Mae pob ardal yn ei thro yn gweithio’n galed iawn i godi arian – byddai hyn hefyd yn ffordd i’r Eisteddfod ddweud diolch.

§

Jones , Tachwedd 27, 2011 9:12 pm

Rhaid i pennaeth yr Eisteddfod esbonio yn union pam nath o ddim gweld hyn yn digwydd.

Petai hyn wedi digwydd i rhywbeth fel y V-festival neu Glastonbury bysa na swn mawr, ond na, dwi’n teimlo bod hyn yn cael ei sgubo dan y carped.

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Tachwedd 27, 2011 9:28 pm

Mae’n gneud i’w sylwadau am ‘dynhau’r belt’ edrych yn eitha pathetig……… Faswn i’n meddwl bod ganddo lawer o waith egluro i’w wneud efo’r Cynulliad……….

§| Nodi camddefnydd

Jones , Tachwedd 27, 2011 10:10 pm

Be o ni’n gweld yn od o’r datganiad odd:

“Llwyddwyd i reoli gwariant yr Eisteddfod ac unwaith eto eleni nid yw’r golled yma’n arwydd o unrhyw gamreoli gwariant.”

Pam son am “UNRHYW GAMREOLI GWARIANT” yn y lle cyntaf?

§| Nodi camddefnydd

Mali , Tachwedd 27, 2011 11:10 pm

Oes yna dogfen neu wefan sydd yn cyhoeddi lle mae pob un ceiniog mae’r Eisteddfod yn ei wario yn mynd? Ag os ddim, pam??

§

Jones , Tachwedd 27, 2011 11:25 pm

Mali;
dwi wedi chwilio ar wefan yr Eisteddfod- ond methu gweld dim.

Ond mae accounts 219171 – EISTEDDFOD GENEDLAETHOL FRENHINOL CYMRU ar wefan y Charity Commission- ag yno allwch chi weld bod yr elusen yma wedi gwario mwy nai incwm yn 2007, 2008, 2009.

Dwi ddim yn arbenigwr ar accounts, ond dwi wedi cymeryd blwyddyn yn gordden 2008 fel engraifft. Yno mae costau staff yn £653,000 gyda (£60,000 o hwn yn mynd tuag at pensiwn). Onid ydy hwn yn swm hynod o fawr i Elusen, trwy rhan fwyaf or flwyddyn sydd ddim hefo gymaint o hynny o staff na?

§| Nodi camddefnydd

Rhys , Tachwedd 28, 2011 12:41 pm

Os ydych chi wîr yn meddwl fod angen cael gwared o gigs Maes B, felly mae angen sbio ar eich pennau.

Mae yna ganoedd ar ganoedd o bobl ifanc yn mynychu Maes B bob blwyddyn, mae’n ran hollol bwysig o’r profiad Eisteddfod iddyn nhw.

O ran safbwynt y bandiau/artistiaid hefyd, mae Maes B yn un o’r llwyfannau mwyaf o’r flwyddyn iddyn nhw, ac yn un o’r gigs sy’n talu orau hefyd.

Dwi’n meddwl ei fod yn amlwg fod Maes B yn ran hynod o bwysig i’r sîn gerddoriaeth gyfoes, ac mewn cyfnod ble mae cerddoriaeth gyfoes cymraeg yn cael ei danseilio gryn dipyn, mae’r syniad o ganslo gigs Maes B yn un hollol dwp.

A gadael y trefnu gigs i fudiadau eraill? Dowch laen, y gwir amdani yw mae yna ddigon o le i gael gigs Maes B ac Cymdeithas yn yr wythnos Eisteddfod, a mae’n biti fod rhai pobl yn ceisio creu ryw gystadleuaeth rhwng y ddau yn lle dathlu’r ffaith fod yna gymaint o gigs gwych yn cael eu cynnal.

§| Nodi camddefnydd

Martin Williams , Tachwedd 28, 2011 3:42 pm

Ym mhle mae prif swyddfa parhaol y Brifwyl? Yr Wyddgrug ynteu Caerdydd? Os mai Caerdydd ydi’r ateb yna dyma gamgymeriad arall yn hanes y Brifwyl.
Bydoedd Cymraeg sydd ddim yn rhy Caerdydd-centric. Mae hyn yn bwysig (yn enwedig yn ystod cyfnod o gyni ariannol.)

§

gaynor jones , Rhagfyr 1, 2011 1:48 pm

Cytuno gyda sylwadau Hedd, mae’r steddfod wedi ymestyn ei hun yn ormodol y blynyddoedd dwethaf a thrwy hynny a diffyg effeitholrwydd mynd i ddyled. mae ange mynd nol i’r basics. Gwendid mwyaf y drefn yma yw drwy gynnal cyment o bethau ar y maes mae’r ardal /trefi sy’n cynnal yr wyl yn colli mas yn ariannol gan bod popeth wedi ei leoli ar y maes a bobl prin yn madel a’r maes a’r maes carafannau i fentro i’r trefi cyfagos.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.