Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Newidiadau i’r Eisteddfod i arbed £200,000

Rhagfyr 7, 2011 15:12


Yn dilyn cyhoeddi colled o £90,000 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, mae Prif Weithredwr y Brifwyl wedi sôn am rai o’r sialensiau a’r newidiadau sy’n wynebu’r Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf.

Ymhlith y newidiadau mae penderfyniad i beidio cael adeilad ar y maes carafanau a chael “llwyfan agored” ar y Maes Ieuenctid o’r dydd Mercher ymlaen “llawer tebycach i lwyfannau Glastonbury.”

Mewn cyhoeddiad ar wefan yr Eisteddfod  mae Elfed Roberts, Prif Weithredwr y Brifwyl, yn egluro fod yr Eisteddfod wedi “cymryd y camau cyntaf i wneud arbedion gwerth £200,000 i’w gwariant eleni ac yn y dyfodol” ar ôl colledion eisteddfod Wrecsam.

Y newidiadau

“Rydan ni wedi sylweddoli bod gofod gwag sylweddol yn y Pafiliwn ac felly byddwn yn tynnu un bae o’r babell ac yn newid y cynllun seddau,” meddai Elfed Roberts cyn egluro mai arbrawf fydd hyn yn 2012.

“Os yw’n apelio at y gynulleidfa, y cystadleuwyr a’r darlledwyr, yna, efallai y bydd hyn yn cael ei wneud bob blwyddyn”.

Bydd newidiadau i Faes B a C yn ogystal, eglura.

O ran Maes C, dywedodd fod yr eisteddfod wedi penderfynu peidio cael adeilad ar y maes carafanau, ond yn hytrach y byddent yn “defnyddio’r llwyfan perfformio a lleoliadau amrywiol o amgylch y Maes ar gyfer gweithgareddau.”

“Eleni, dangosodd carafanwyr yr Eisteddfod yn glir  bod awyrgylch y Maes ei hun gyda’r nos yn apelio mwy na Maes C. A digwydd bod, mae hyn yn bosibl i’w wneud am y ddwy flynedd nesaf gan fod y maes carafanau am fod yn agos at y Maes,” meddai’r Prif Weithredwr.

“Fe fydd hyn yn arbed arian i ni, ond mae hefyd yn gyfle i ni arbrofi ac i ddefnyddio adeiladau ar y Maes fel Y Lle Celf, y Theatr a’r Babell Lên mewn ffordd wahanol gyda’r nos. Arbrofi gydag adnoddau sydd gennym eisoes y byddwn ni’r flwyddyn nesaf”.

‘Llawer tebycach i Glastonbury’

Dywedodd hefyd y bydd Brwydr y Bandiau Maes B yn cael ei chynnal ar y Maes ei hun yn 2012, ond o’r nos Fercher ymlaen y “bydd llwyfan agored ar y Maes Ieuenctid – llawer tebycach i lwyfannau Glastonbury.”

Yn ôl Elfed Roberts, un fynedfa i’r Maes fydd ym Mro Morgannwg a bydd yr Eisteddfod hefyd yn cael gwared â phafiliwn y noddwyr, yr ardal lletygarwch corfforaethol yn y bwyty ac yn torri i lawr ar y byrbrydau a gynhelir ar y Maes.

Fe fyddan nhw hefyd yn  gosod llai o garped mewn adeiladau, meddai.

Dim ond un llwyfan perfformio fydd ar y Maes y flwyddyn nesaf ac un patio bwyd mawr.

“Mae digonedd o ardaloedd yng Nghymru am ein gwahodd atynt, ond mae’n rhaid cael mwy na chefnogaeth ardal i sicrhau llwyddiant. Ydych chi’n barod i gefnogi drwy fynychu’r Eisteddfod? Dyma, yn y pen draw, fydd yn sicrhau dyfodol a ffyniant ein gŵyl genedlaethol,” meddai Elfed Roberts.

‘Dim effaith ar y profiad Eisteddfodol’

“Mae yna nifer o gyfarfodydd wedi bod dros yr wythnosau diwethaf ac mi ydan ni wedi llwyddo i gael hyd i tua £200,000 o arbedion heb effeithio ar y profiad Eisteddfodol,” meddai Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod.

“Dw i’n meddwl y bydd Maes C yn gweithio’n dda ar y Maes ac yn ddefnydd da o’r adeiladau gyda’r nos.  Dim ond gobeithio y bydd pobl yn ymateb yn bositif ac yn rhoi cyfle i ni drio gwneud i bethau weithio.”

Ymateb Cynghorydd

Yn ol Arfon Jones, Cynghorydd Plaid Cymru, Wrecsam doedd dim digon o le yn y Pafiliwn yn ystod y coroni a’r cadeirio. “Os ydyn nhw’n mynd i dorri  lawr ar nifer y seddau, beryg na fydd digon o le ar gyfer y prif seremonïau,” meddai’r cynghorydd wrth Golwg360.

Roedd hefyd yn pryderu am effaith peidio cael adeilad ar y maes carafanau.

“I fod yn onest, ym Maes C mae’r awyrgylch. Dyma le mae pobl yn mynd, mi ddylen nhw gadw pethau fel Maes C,” meddai. “O ran cael llwyfan agored ym maes B, grêt os yw’r tywydd yn iawn – neu ti am gael profiad Glastonbury go iawn. Dw i ddim yn gwybod faint o bobl sydd am aros o gwmpas i wylio perfformiadau Cymraeg yn y glaw,” meddai.

Dywedodd mai “llwyddiant mawr” Eisteddfod Wrecsam oedd “gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr orsaf ganolog.”

“Dw i’n meddwl dylai’r Gymdeithas a’r steddfod ddod at ei gilydd i roi un llwyfan i ieuenctid,” meddai.

“Does ‘na ddim digon o bobl ifanc yn dod i’r eisteddfod i fynd i gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith. Mae gan y Gymdeithas well syniad o sut i’w gwneud hi. Roedd y Central Station yn llawn dop bob nos. Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod yw’r rhai mwyaf llwyddiannus dw i ‘di bod ynddyn nhw erioed.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Guto , Rhagfyr 7, 2011 4:05 pm

Parthed y slyw uchod ynghylch y gigs mae’n bechod na fu y cynghorydd lleol draw i Prifysgol Glyndwr ar gyfer Maes B eleni i gael gweld pa mor brysur o’dd y gigs. Mi o’dd na dros 1200 y noson yna ar gyfartaledd o nos Fercher ymlaen gyda’n lle yn llawn dop ar gyfer y gigs ar y penwythnos olaf.

§

Gareth , Rhagfyr 7, 2011 4:13 pm

Pam mynd i’r ardaloedd Seisnig dro ar ol tro ar ol tro? Hen bryd i’r Eisteddfod fynd i Geredigion, i efelychu llwyddiant mawr yr Urdd y llynedd. Ewch a hi at y Cymry Cymraeg ac fe ddown nhw, ac fe wnewch elw. Simpls.

§

Gareth , Rhagfyr 7, 2011 4:17 pm

Sorri Guto, ond dyna’r canfyddiad cyffredinol – “Mae gan y Gymdeithas well syniad o sut i’w gwneud hi”. Mae eu gigs nhw just yn well.

§

Dafydd annwyl , Rhagfyr 7, 2011 4:41 pm

Ddim brwydr rhwng gigs Maes B a Cymdeithas di’r pwynt. Mae angen y ddau yna. Cyfle i bawb cael gig, a ddim i Gymdeithas yr Iaith gwneud mor gymaint o bres a gallant nhw allan o’r dorf a bandiau a dweud ei bod yn neud o dros yr Iaith.

§

Geraint , Rhagfyr 7, 2011 4:46 pm

@Gareth
Mae’n honiad arwynebol i ddweud bod yr Eisteddfod dim ond yn mynd i’r ardaloedd ‘Seisnig’ – pwy sydd i ddweud nad oes Cymry Cymraeg yn y Wrecsam neu ym Mlaenau Gwent?

Beth bynnag, os wyt am weld yr Eisteddfod yn ymweld â Cheredigion, yna dos ati i drefnu pwyllgor ac estyn gwahoddiad iddo ddod yno.

§

Gareth , Rhagfyr 7, 2011 4:48 pm

Nid yng Ngheredigion ydw i’n byw Geraint! Ond mae’n ffaith mai Eisteddfodau’r ffin sydd wastad yn gwneud colled. Mae Cymry Cymraeg yno, oes wrth gwrs, peidiwch a siarad yn wirion, ond nid y niferoedd fyddai’n mynychu yn y Gorllewin. Syml.

§

Guto , Rhagfyr 7, 2011 5:09 pm

@ Gareth

Ma dy ganfyddiad cyffredinol yn cyffredinoli o’r radd eithaf. Ma gigs Maes B a rhai y Gymdeithas yn dueddol o wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol. Ystod oedran 16-20 ydi craidd cynulleidfa Maes B ac ymysg y gynulleidfa darget yna mae’n gweithio. Ma’r Gymdeithas yn dueddol o dargedu cynulleidfa hyn, ac i’r gynulleidfa penodol yna ma’r hyn ma’r Gymdeithas yn ei drefnu yn apelio gryf. Pwynt fy mhost blaenorol ydi bod Maes B wedi bod yn lllwyddiant o ran niferoedd yn Wrecsam ond gan nad oedd y cynghorydd yn debygol o fod yn rhan o’r gyunulleidfa darget ac heb fynychu unrhyw o’r gigs mi gafodd Maes B ei ddiystyrru yn ei sylwadau.

§

Rhys , Rhagfyr 7, 2011 6:34 pm

Cytuno gyda Gareth, dylai’r Steddfod fynd yn amlach i’r ardaloedd Cymraeg cynhenid, ac efallai fynd unwiath mewn pum mlynedd i’r ardaloedd Seisnig.

§

Ben , Rhagfyr 7, 2011 7:45 pm

Caell llwybr agored- syniad gwych! base hwnna’n well na gorfod dal y bws i ble bynnag ma’r gigs . syniad da iawn

§

Carwyn Davies , Rhagfyr 7, 2011 8:01 pm

“Dw i’n meddwl dylai’r Gymdeithas a’r steddfod ddod at ei gilydd i roi un llwyfan i ieuenctid……Mae gan y Gymdeithas well syniad o sut i’w gwneud hi.” Clyw clyw!

Gobeithio fy aelodau Cymdeithas a pwyllgor yr Eisteddfod yn darllen yr erthygl yma ag yn trafod a cyd-weithio a’i gilydd. Dyma’r ffordd ymlaen. Gadewch i Cymdeithas rhedeg gigs.

§

pwy? , Rhagfyr 8, 2011 10:40 am

Cytuno i’r carn gyda Gareth, Maes B a Cymdeithas yn targedu cynulleidfa hollol wahanol. Maes B – 25 oed neu iau a Cymdeithas 25 +. Esi i un o gis Maes B ar y penwythnos olaf – roedd y lle yn llawn o bobl ifanc a llawer ohonyn nhw yn yfed odan oed. Mae Cymdeithas yn cynnig gigs i’r gynulleidfa hyn, sydd isio mwynhau cerddoriaeth dda.

§

pwy? , Rhagfyr 8, 2011 10:42 am

Sori, Guto dwi’n gytuno hefo… Gareth yn siarad lol!

§| Nodi camddefnydd

Gareth , Rhagfyr 8, 2011 11:09 am

Fydde’n well gen i fod yn sgidie’r Gymdeithas os felly. Yr Eisteddfod yn cael yr holl arian cyhoeddus ac yn cynnal digwyddiadau sy’n dibynnu ar blant yn yfed dan oed. Sefyllfa beryglus a bregus i fod ynddi, heb sôn am anghyfrifol a gwleidyddol-annoeth.

Rhys – sens! Mae’r ymweliadau cymharol â’r Fro Gymraeg i gymharu ag ardaloedd Seisnig yn rhy isel o lawer. Mae eisiau i’r Eisteddfod barhau â’i gwaith efengylu yn y broydd hynny wrth gwrs ond efallai’n bwysicach yw’r gwaith adfer unfed awr ar ddeg sydd i’w wneud yn y broydd Cymraeg CYN eu colli. Oherwydd eu colli wnawn ni – mae’n digwydd yn gyflym iawn. Mae mwy o angen brys yn yr ardaloedd hyn am y blynyddoedd nesaf. Heb sôn am yr angen ychwanegol i achub yr Eisteddfod ei hunan, sydd nid yn fychan o beth.

§

Geraint , Rhagfyr 8, 2011 11:13 am

@Gareth
“Ond mae’n ffaith mai Eisteddfodau’r ffin sydd wastad yn gwneud colled. Mae Cymry Cymraeg yno, oes wrth gwrs, peidiwch a siarad yn wirion, ond nid y niferoedd fyddai’n mynychu yn y Gorllewin. Syml.”

Efallai bod yr Eisteddfodau diwethaf sy’n agos at y ffin wedi gwneud colled, ond mae awgrymu bod yr Eisteddfod dim ond yn mynd i’r ardaloedd ‘Seisnig’ fel wnest yn dy sylw flaenorol yn gwbwl anghywir. Ac yn y pen draw, cael ei wahodd gan y gymuned leol i fynd i’r ardaloedd hyn mae’r Eisteddfod, ac mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r Eisteddfod i genhadu ymysg yr ardaloedd hyn neu fyddant byth yn dod â thorf i’r giât.

Sawl awdurdod lleol sydd yng ngogledd-orllewin a gorllewin Cymru? Tua hanner dwsin. Sawl awdurdod lleol sydd ar y ‘ffin’ neu yn y deddwyrain? Lot mwy. Mae’r faich o godi arian ymysg y gymuned leol a’r awdurdodau lleol yn enfawr a’n gwbwl afrealistig i ddisgwyl i’r un siroedd ei chynnal bod chwe mlynedd.

§

Gareth , Rhagfyr 8, 2011 12:04 pm

Ond pryd fu’r Eisteddfod yng Ngheredigion ddiwethaf Geraint?

§

Geraint , Rhagfyr 8, 2011 12:43 pm

’92.

§

Gareth , Rhagfyr 8, 2011 1:59 pm

Ugain mlynedd yn ôl!

§

Geraint , Rhagfyr 8, 2011 2:11 pm

Ia, a’r pwynt dwi wedi ei godi eisoes yw mai’r gymuned/awdurdod lleol sy’n gwahodd yr Eisteddfod i’w patshyn. Os nad ydi Cyngor Sir Ceredigion am ei wahodd yno, ni eith yno!

§| Nodi camddefnydd

Rhys Arall , Rhagfyr 8, 2011 3:06 pm

Pam oes rhaid cymharu Maes B a Cymdeithas pan y mae’n hynod o amlwg fod y ddau gyda chrai gynulleidfa gwahanol? Amser i ddathlu be sgena ni fel diwylliant ydi’r Eisteddfod, nid i gystadlu pwy sydd yn gallu rhedeg y gigs gorau. Tyfwch i fyny.

@Gareth – am be ddiawl wyt ti’n sôn?! Mae Cymru yn wlad a mae’r Eisteddfod yn teithio o’i amgylch, derbynia hynnu. Ma dy syniad bach rhyfedd di fod y Fro Gymraeg yn haeddu cael yr Eisteddfod yn amlach na’r ardaloedd ti’n ei ddisgrifo yn ‘Seisnig’ yn ymulu ar swnio’n ffasgaidd. Mae’r Eisteddfod i bawb yng Nghymru i fwynhau, dathlu diwylliant a dysgu ohono, nid mond y rhai sydd wedi tyfu fyny gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf.

§

CGT , Rhagfyr 8, 2011 5:40 pm

Y tristwch yw mai’r ardaloedd Cymraeg ei hiaith yn aml yw’r rhai tlotaf- ni chredaf y gwnaiff yr eisteddfod ymweld a rhai ardaloedd fyth eto am fod y gost yn enfawr ar ardaloedd cefn gwald.
Edrychwch ar eisteddfod yr urdd – yr oedd pobl Pen Llyn yn gorfod talu am eisteddfod ddiweddar oedd yn agos at Gaernarfon.
Nid yw’r syniad o eisteddfod deithiol yn gwneud synnwyr bellach. Gyda’r llaw – mae unrhyw wariant yn golygu fod yna dal yn mynd i boced rhywun . I boced pwy mae’r costau enfawr yma’n mynd , deudwch ?

§

Eirwen Haf , Rhagfyr 9, 2011 11:09 am

Mae angen gwneud rhywbeth am y crocbris mae’r stondinau bwyd yn codi am brydiau rili sal. Mae diwrnod yn y Steddfod (gyda thocynnau drud, bwyd costus ayyb) tu hwnt i bocedi llawer…

§| Nodi camddefnydd

Martin , Rhagfyr 9, 2011 1:30 pm

CGT fel arfer yn siarad synnwyr.
Rhaid creu safleoedd parhaol ar gyfer y ‘Steddfod Genedlaethol a’r Urdd (ac efaillai rhai Taleithiol hefyd?) yn ogystal a chynnal sioeau amaethyddol, cyngherddau ayyb ar y safleoedd er mwyn rhannu’r costau cynnal a chadw.
Mae ganddon ni lawer mwy o gynghorau sir nag sy’n rhesymol mewn gwlad mor fach – yn diriogaethol a phoblogaeth – felly pan gawn ni’r ad-drefnu anochel mi fydd y cynghorau sirol newydd mwy yma yn medru fforddio cynnal yr Eisteddfod.
Pwynt arall gododd CGT oedd i ble mae’r holl arian yn mynd? Ymhob Eisteddfod dw i wedi mynychu, cyn hyd yn oed cyrraedd mynedfa’r Eisteddfod, dw i’n cerdded heibio peiriannau a geriach amrywiol sy’n cael ei llogi ar gyfer y ‘Steddfod – a bron yn ddieithriad mae’r cyfeiriadau arnynt yn rhai yn Lloegr. Mi fuasai’n ddiddorol gweld i ble yn union mae’r holl arian yn mynd; e.e. canran yr arian sy’n cael ei wario’n lleol.
Ynglyn a’r “gofod gwag yn y Pafiliwn”; y tro diwetha’ i fi a’n nheulu fod yn y Pafiliwn oedd Cyngerdd “C” yng Ngaerdydd. Wnes i anghofio archebu’r tocynnau mewn pryd, felly rhaid oedd bodloni ar seddi hefo ‘golygfa cyfyngedig’ o’r llwyfan. Er fod y tocynnau yn costio llai, roeddynt dal yn rhy ddrud. Fuaswn i byth yn prynu tocyn ar gyfer y seddi hynny eto.

§

Llinos , Rhagfyr 10, 2011 5:53 pm

Dwi’n credu y dylai’r Eisteddfod ymweld â phob cwr o Gymru, er bod y lleoliad yn effeithio ar elw pob stondin. Eisteddfod Glyn Ebwy – doedd hi ddim y gorau o ran gwerthiant, er hynny, dwi’m yn cofio un Eisteddfod Genedlaethol pan brofais cymaint o gariad a pharch at Gymru a’i hiaith gan Gymry di-Gymraeg! Sylweddolais hefyd pa mor ffodus ydw i i fyw mewn ardal lle dwi’n cael cyfle i glywed a siarad yr iaith yn ddyddiol. Cadwch hi’n Steddfod i Gymru gyfan!

Mae angen ail edrych ar bris mynediad i’r maes, a chadw mewn golwg mai siopwyr fydd y rhan fwyaf o’r ymwelwyr pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardaloedd ar y ffîn. Tybed oes angen cael tocyn maes/tocyn maes a phafilwn?

Mae wastad llawer o gwyno am bris bwyd ar y maes – byddai angen gostwng cost cael stondin bwyd cyn y gellid gostwng hwnnw.

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Rhagfyr 11, 2011 7:39 am

Fel mae Llinos yn dweud, y rheswm bod y bwyd yn ddurd ar y stondinau bwyd yw bod y pris o gael stondin bwys ar y maes yn ddrud iawn. Ond wedyn, o leihai’r gost honno, dyna lai o arian yn mynd i goffrau’r Eisteddfod.

Wrth gwrs, mae wastad yn bosib mynd â brechdanau neu dwb o rywbeth o gartre neu’r garafan. Fe lwyddes i i haneru ‘ngwariant ar fwyd yn Wrecsam leni drwy wneud hynny ar sawl diwrnod.

§

Blaidd , Ionawr 2, 2012 7:38 pm

“Pam mynd i’r ardaloedd Seisnig dro ar ol tro ar ol tro? Hen bryd i’r Eisteddfod fynd i Geredigion”

Paid â phoeni. Rwy’n siŵr bydd Ceredigion yn ardal Seisnig cyn hir…

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.