Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle

Rhagfyr 27, 2011 07:00, Diweddarwyd Rhagfyr 26, 2011 21:05


E-lyfrau'r Nadolig
Mae un o weisg Cymru wedi datgelu bod llyfrau Cymraeg bellach ar gael i’w lawrlwytho yn syth o’r we i ddyfeisiau e-lyfrau Kindle.

Mae’n debyg fod miliynau o bobol Ynysoedd Prydain wedi derbyn dyfais Kindle yn eu hosan Nadolig eleni, ac mae’r Lolfa yn awyddus i sicrhau fod deunydd darllen Cymraeg ar eu cyfer nhw.

Yn ogystal â bod yn rhatach na llyfrau papur, mae’n bosib lawrlwytho e-lyfrau yn syth o’r we a chario nifer anghyfyngedig ohonynt y tu mewn i’r ddyfais.

Roedd pryder yn yr haf na fyddai llyfrau Cymraeg yn ymddangos ar y Kindle erbyn y Nadolig, ar ôl i Amazon wrthod caniatáu cyhoeddi testunau yn yr iaith ar y ddyfais ddiwifr.

Ond mae’r Lolfa bellach wedi gallu cyhoeddi naw o nofelau Cymraeg ar ffurf e-lyfrau ar wefan y cwmni, ac maen nhw’n bwriadu cyhoeddi rhagor yn y dyfodol.

Mae’r llyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Yr Alarch Du, Dyn Pob Un, Y Llyfrgell, Y Ferch ar y Ffordd, Tonnau Tryweryn, Yr Argraff Gyntaf, a’r Ddinas ar Ymyl y Byd.

Mae’r llyfrau i gyd ar gael i’w prynu ar wefan Amazon fan hyn.

Ymateb i’r galw


E-lyfr Cymraeg ar y Kindle
“Yn sgil galw gan nifer o gwsmeriaid dros y flwyddyn rydym wedi cyhoeddi nifer o’n nofelau poblogaidd ar y Kindle eleni,” meddai Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa.

“Gobeithio bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw yn bell o gyrraedd siop lyfrau Cymraeg i brynu ein llyfrau yn syth bin yn electronig.

“Mae’r Lolfa wedi bod yn cyhoeddi e-lyfrau ar wefan y Lolfa ers bron i bedair blynedd ond dyma’r tro cyntaf i e-lyfrau Cymraeg fod ar werth ar wefan Amazon ar gyfer y Kindle.

“Ymhlith yr elyfrau sydd ar gael mae Dyn Pob Un, nofel ddeifiol a dychanol Euron Griffith a nofel newydd Rhiannon Wyn am Gaernarfon Yr Alarch Du. Mae prisiau’r e-lyfrau ar gyfartaledd yn bunt yn rhatach na’r llyfrau papur.”

Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd yna ddewis ehangach ar gael erbyn y Nadolig nesaf, ac y bydd llyfrau Cymraeg ar gael ar ddyfeisiau darllen eraill.

“Mae’n ymddangos taw ateb dros dro yw hyn,” meddai. “Mae yna gynlluniau ar y gweill i gyhoeddi rhagor o elyfrau Cymraeg ar gyfer pob pob dyfais eddarllen.

“Gobeithio y bydd hyn yn golygu cynulleidfa ehangach i lyfrau Cymraeg yn enwedig ymhlith y Cymry alltud.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd , Rhagfyr 27, 2011 7:59 am

Datblygiad pwysig iawn. Da iawn i’r Lolfa am sicrhau fod Amazon yn newid ei pholisi

§| Nodi camddefnydd

Iestyn Lloyd , Rhagfyr 27, 2011 8:41 am

Da iawn i Garmon a’r Lolfa am gael y llyfrau ar y ‘kindle store’. Ond dyw Amazon dal ddim yn cefnogi Cymraeg fel iaith yn swyddogol. Efallai fod y person sy’n derbyn y llyfrau yn Amazon yn cydymdeimlo efo’r Cymry ag yn gadael y llyfrau trwodd, ond eto yn groes i fy nadl, o fewn disgrifiad y llyfr mae’n dweud ‘Language – Welsh’! Felly a’i hyn yw’r dechrau swyddogol distaw gan Amazon i gefnogi’r iaith?

Da iawn chi bethbynag

§

Mali , Rhagfyr 27, 2011 1:20 pm

Da iawn y Lolfa.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Rhagfyr 27, 2011 2:27 pm

Yn wir da iawn i’r lolfa, datblygiad pwysig a chyffrous :) Nawr i sicrhau bod y rhyngwynebau ar y dyfeisiadau hyn yn Gymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Tom , Rhagfyr 27, 2011 8:26 pm

O’r diwedd!

§| Nodi camddefnydd

Carl Morris , Rhagfyr 27, 2011 9:56 pm

Gawn i weld mwy o’r llyfrau yma mewn y siop e-lyfrau ar wefan Y Lolfa? Dw i ddim eisiau defnyddio Amazon. Mae gen ti ddewis!

§| Nodi camddefnydd

Benjiman , Rhagfyr 27, 2011 11:24 pm

Er bod hoffwn i ddim defnyddio ddyfais fel ‘na i wneud rhywbeth mor organig a darllen llyfrau, gallwn i ddim rhoi sarhau arni. Beth ffordd yn well i bobl tu hwnt Cymru neu’r DU i ddysgu neu datblygu eu Gymraeg nhw?

§| Nodi camddefnydd

Lowri Rees Roberts , Rhagfyr 28, 2011 3:35 pm

Gwych, da iawn!

§

Gwen , Ionawr 2, 2012 10:30 pm

Mae hyn yn newyddion da, ond oni fyddai modd ychwanegu ‘clasuron’ Cymraeg hefyd, a hynny’n rhad ac am ddim? Byddai’r rhain yn cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth.

§

Carl Owen , Ionawr 4, 2012 1:49 pm

Newyddion da iawn, datblygiad pwysig i ddyfodol llyfrau Cymraeg.

§

Cromen , Ionawr 5, 2012 4:27 pm

edrychwch ar -
http://www.cromen.co.uk

dim llawer o ddewis ar hyn o bryd – ond mae ‘na fwriad pendant i gyhoeddi mwy yn ystod 2012

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.