Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyhoeddwyr yn gobeithio ‘ychwanegu mwy o e-lyfrau’

Ionawr 3, 2012 16:16


Kindle
Mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi dweud heddiw eu bod yn “edrych ymlaen” at ehangu nifer yr e lyfrau fydd ar gael ar gyfer Kindle yn ystod y misoedd nesaf.

Fe wnaeth Y Lolfa werthu “bron i 100” o e-lyfrau dros y Nadolig, meddai Garmon Gruffudd wrth Golwg360.

Roedd gan y Lolfa naw o e-lyfrau ar werth dros y Nadolig.

Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio “ychwanegu tua dwsin arall yn ystod y misoedd nesaf.”

“Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ond, eto, mae’n amlwg bod e’n gweithio a phobl wedi’u prynu nhw.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd yn ehangu ac yn tyfu yn enwedig pan mae mwy o ddewis” meddai.

Roedd na bryder yn yr haf na fyddai llyfrau Cymraeg yn ymddangos ar  Kindle erbyn y Nadolig, ar ôl i Amazon wrthod caniatáu cyhoeddi testunau yn yr iaith Gymraeg ar y ddyfais ddiwifr.

Ond roedd y Lolfa wedi llwyddo i gyhoeddi naw o nofelau Cymraeg ar ffurf e-lyfrau ar wefan y cwmni, ac maen nhw’n bwriadu cyhoeddi rhagor yn y dyfodol.

Mae’r llyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Yr Alarch Du, Dyn Pob Un, Y Llyfrgell, Y Ferch ar y Ffordd, Tonnau Tryweryn, Yr Argraff Gyntaf, a’r Ddinas ar Ymyl y Byd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eirion Rhys , Ionawr 4, 2012 12:58 pm

Dyn ni un cam ar ei hol hi eto – mae’r ap iBooks, sy ar iPhone, iPod ac iPad, yn disodli Kindle, felly, mae angen mwy o lyfrau Cymraeg ar iBooks a dweud y gwir.

§| Nodi camddefnydd

Martin , Ionawr 4, 2012 1:38 pm

Mae Cyngor y Celfyddydau am roi £65mil i gynnal gwyl lenyddol ar dir castell Dinefwr “er mwyn hyrwyddo llenyddiaeth yn yr ardal”.

Onid gwell defnydd o’r arian fasa’ buddsoddi yng gwefan Gwales er mwyn galluogi gwerthu e-lyfrau – mewn fformat sydd ddim ynhglwm i unrhyw ddyfais penodol – a cadw’r holl elw i gylchdroi yn y ‘diwydiant’ llyfrau Cymraeg a Chymreig.

Mae’r Kindle Store ac iTunes/iBooks yn cadw cyfran nid ansylweddol o’r pris mae rhywun yn talu am e-lyfr – cyfran sy’n cael ei golli.

Dewch o’ na’, Gwales! Rhowch gynllun busnes o flaen Cyngor y Celfyddydau ar frys. Bydd y costau cynhyrchu a dosbarthu yn is i’r gweisg, ac mi fasa’ Gwales yn derbyn canran bach o’r pris er mwyn cynnal a diweddaru’r wefan.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.