Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



£65,000 i gynnal gŵyl lenyddol newydd i’r Gorllewin

Ionawr 4, 2012 11:40


Lleucu Siencyn
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi rhoi £65,000 tuag at gynnal gŵyl lenyddol newydd yn y gorllewin eleni, er mwyn hyrwyddo llenyddiaeth yn yr ardal.

Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Dinefwr yn cael ei gynnal ar dir Castell Dinefwr ddiwedd Mehefin eleni, ac yn para am dridiau.

Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Llenyddiaeth Cymru, mae’r digwyddiad yn mynd i fod yn gyfle i hybu diwylliant Cymreig yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â llenyddiaeth, ac fe fydd cerddorion, beirdd, cantorion, a sgriptwyr i gyd yn cael cyfle i berfformio yn ystod y penwythnos.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant – sef y prif bartner wrth arwain prosiect Coracle.

Bydd yr arian i gynnal yr ŵyl yn dod o gronfa Ariannu Gwyliau llenyddiaeth Cymru.

‘Dynwared y Dyn Gwyrdd’

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn gallu codi ymwybyddiaeth o lenyddiaeth Gymraeg, a denu’r un poblogrwydd ag y gwaneth gwyliau cerddorol eraill Cymru i fyd roc a phop Cymreig dros y blynyddoedd.

“Y gobaith yw i efelychu rhai o hoff wyliau Cymru dros y blynyddoedd – Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Sesiwn Fawr, y Cnapan – gan wneud i lenyddiaeth yr hyn a wnaed i gerddoriaeth gan y gwyliau hyn.”

Ond bydd yr ŵyl yn darparu arlwy ehangach na dim ond llenyddiaeth i ymwelwyr, gyda “digwyddiadau llenyddol ochr yn ochr â ffurfiau celfyddydol eraill, yng nghanol tirwedd hardd a hanesyddol Parc a Chastell Dinefwr.”

Ymhlith yr amrywiaeth hyn fydd cerddoriaeth, comedi, sinema a gweithgareddau i’r plant – a maes gwersylla i bobol fydd eisiau treulio’r penwythnos cyfan ar y safle.

Yn ôl Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, mae cynnal yr ŵyl yn rhan o “weledigaeth Llenyddiaeth Cymru” o fynd â llenyddiaeth “i bob cwr o Gymru i gynulleidfa mor eang â phosib.

“Mae’r ŵyl newydd yn caniatáu i ni wneud hynny,” meddai, gan ragweld y bydd “2012 yn flwyddyn wych i lenyddiaeth – ac i’r gorllewin.”

Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Dinefwr yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener, 29 Mehefin, a dydd Sul, 1 Gorffennaf, 2012.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gerwyn Preis , Ionawr 4, 2012 11:46 am

Y gobaith yw i efelychu rhai o hoff wyliau Cymru dros y blynyddoedd – Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Sesiwn Fawr, y Cnapan – gan wneud i lenyddiaeth yr hyn a wnaed i gerddoriaeth gan y gwyliau hyn.”

Mae’r paragraff hyn yn codi gwir arswyd……. Y Sesiwn Fawr? Y Cnapan? Be fu hanes rhain? Methiannau yn y diwedd a cholled ariannol sylweddol….. bu jest i’r sesiwn Fawr orfod fynd yn fethdalwyr……. a diwedd y Cnapan oedd bo nhw’n talu arian mawr i enwau nad oedd yn denu/ yn berthnasol…. felly y SF……

Gwylied rhag i hanes gael ei hailadrodd……

§

Geraint , Ionawr 5, 2012 1:55 pm

I fod yn deg Gerwyn, dwi ddim yn meddwl mai efelychu model ariannol/busnes y Sesiwn a’r Cnapan maent yn bwriadu ei wneud. Roedd y gwyliau hynny’n cyflwyno cerddoriaeth werin a thraddodiadol i lwyfan ehangach – megis bwriad yr Wyl yma o fewn cyd-destun lenyddol. I ryw raddau, roedd y gwyliau hynny’n lwyddianus (yn gelfyddydol o leiaf) a braf yw gweld y Sesiwn yn codi yn ôl i’w thraed ar ôl y cyfnod o ansicrwydd (roedd SFD2011 yn wych a llawer agosach ei naws i’r hen Sesiwn).

Nid yw Gwyl y Gelli Gandryll yn adlewyrchiad o gyfoeth lenyddol Cymreig, felly braf iawn yn wir yw clywed am y fenter newydd hwn – a brafiach fyth yw clywed mai yn y Gorllewin gynhelir yr Wyl ac nid yn y canolfannau poblog arferol, megis Caerdydd, Aberystwyth neu Caernarfon. Yn wir, dylid groesawu buddsoddiad ariannol a diwyllianol o’r fath mewn ardaloedd gwledig, megis Sir Gaerfyrddin yn yr achos hwn.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.