Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gomer i ddechrau cyhoeddi e-lyfrau eleni

Ionawr 9, 2012 11:09, Diweddarwyd am 11:09



Mae llefarydd ar ran gwasg Gomer wedi dweud wrth Golwg360 y bydd y cyhoeddwyr yn cael “gwefan newydd eleni ac yn dechrau cyhoeddi e-lyfrau” wrth i’r wasg ddathlu 120 o flynyddoedd.

“Yn fuan iawn, o fewn ychydig fisoedd, bydd ein gwefan newydd i fyny a bydd e-lyfrau arni,” meddai llefarydd ar ran Gomer wrth Golwg360.

“Mae Gomer eleni yn 120 oed felly, rydan ni eisiau trio gweu’r holl beth ynghyd.

“Fe fydd gennym ni feicro-sites i ddathlu’r pen blwydd. Wedyn, bydd y wefan newydd a’r e-lyfrau yn dod yn rhan o’r dathliad 120”.

Eisoes, mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi dweud eu bod yn “edrych ymlaen” at ehangu nifer yr e-lyfrau fydd ar gael ar gyfer Kindle yn ystod y misoedd nesaf.

Fe wnaeth Y Lolfa werthu bron i 100 o e-lyfrau dros y Nadolig, meddai Garmon Gruffudd wrth Golwg360. Roedd gan y Lolfa naw o e-lyfrau ar werth dros y Nadolig.

Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio “ychwanegu tua dwsin arall yn ystod y misoedd nesaf.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Steffan Llysdinam , Ionawr 24, 2012 11:58 pm

Nid e-lyfrau sy eisiau. Llyfrau llafar sy eisiau. Mae angen i blant glywed yr iaith er mwyn ei darllen yn iawn.
Rhaid recordio llais difyr ar bob e-lyfr!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.