Cynyddu maint testun

Golwg360

Celfyddydau



Llwyfan i’r Gymru drefol

Chwefror 1, 2012 15:35


Cast Fala Surion
Bydd addasiad llwyfan Cymraeg o un o lyfrau ffuglen cyfoes gorau Cymru yn mynd ar daith o gwmpas Cymru’r Gwanwyn yma (28 Chwefror – 28 Mawrth).

Mae Fala Surion yn gynhyrchiad theatr o nofel arobryn Fresh Apples gan Rachel Trezise, a enillodd wobr fawreddog EDS Dylan Thomas yn 2006.

Mae’r sioe, sy’n cael ei chynhyrchu gan Cwmni’r Frân Wen, Ynys Môn, yn gasgliad o straeon byrion emosiynol, pwerus, a miniog wedi’i seilio ar fywyd arddegau yn y Gymru gyfoes.

Y cast

Ymhlith y cast mae’r actorion  Rhodri Meilir,  fu’n actio yn rhaglen gomedi boblogaidd y BBC My Family, Catrin Mara sy’n actio yn Pobol y Cwm, a Rhodri Miles a enillodd y wobr Artist Rhyngwladol Gorau yn yr Hollywood Fringe Festival yn 2010 am ei bortread o’r eicon Cymraeg Richard Burton.

Seren arall ymhlith y cast yw Lowri Gwynne o Rownd a Rownd, S4C a’r actores llwyfan Lynwen Haf Roberts, sydd newydd orffen cyfnod yn chwarae’r brif ran yng nghyfieithiad Cymraeg y Theatr Genedlaethol o sioe gerdd ddadleuol a phoblogaidd Frank Wedekind, Spring Awakening.

‘Emosiwn amrwd’

“Fe gafodd emosiwn amrwd a phŵer uniongyrchol y nofel effaith ddwys arna i,” dywed Meilir, sy’n 33  oed a fu hefyd yn actio yn Terry Pratchett’s Hogfather ar Sky One.

“Mae’n archwiliad ysgytwol o ddiniweidrwydd glasoed gyda gwythïen o gomedi tywyll yn rhedeg drwyddi. Mae ‘na adegau yn y llyfr sy’n gwneud i chi chwerthin, sy’n cynyddu tynerwch y straeon. Mae’n fath o hiwmor fydd y Cymry yn ei werthfawrogi ac yn gallu cydymdeimlo ag o,” ychwanegodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maes Garmon.

‘Hiwmor tywyll’

Mae gwaith Tresize wedi cael ei alw’n ‘ffuglen Cymraeg trefol’ sy’n adlewyrchu anialdir emosiynol a materol y Gymru drefol.

“Lle bynnag mae yna boen gwirioneddol; tlodi, gormes gwleidyddol, anghyfiawnder, mae yna jôcs da a hiwmor tywyll a byw iawn yn bodoli,” dywed yr awdur 33 mlwydd oed o Gwm Rhondda.

“Yn aml iawn tydw i ddim yn sylwi fod yr hyn dwi’n ‘sgwennu yn ddoniol. Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar nofel sydd wedi ei lleoli yn America gyda chymeriadau Uniongred Iddewig a rhai cymeriadau o Dde America, ac mae eu hagwedd nhw tuag at hiwmor yn debyg iawn i un fy nghymeriadau Cymraeg.”

Cyfieithu

Mae llyfrau Trezise wedi cael eu cyfieithu i nifer o wahanol ieithoedd ond dyma’r tro cyntaf i un gael ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Iola Ynyr ei bod hi wrth ei bodd yn gweithio hefo sgriptwyr Fala’ Surion, Manon Eames a Catrin Dafydd, fu’n cyfieithu’r gwaith o Saesneg i Gymraeg. Mae hi’n teimlo eu bod nhw ymhlith y goreuon yng Nghymru, ac “wedi bod yn ddewr iawn wrth drosglwyddo’r cymeriadau o’r tudalennau i’r llwyfan.

“Maen nhw wedi defnyddio hiwmor tywyll, tlodi a gorthrwm i bortreadu bywyd trefol Cymru yn ei holl ogoniant,” ychwanegodd cyfarwyddwr artistig Cwmni’r Frân Wen.

Fala’ Surion
28 Chwefror 2012 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth *
29 Chwefror 2012 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
2 Mawrth 2012 Canolfan Taliesin, Abertawe
7 Mawrth 2012 Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
9 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon *

10 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon

13 & 14 Mawrth 2012 Theatr John Ambrose, Ruthin
15 & 16 Mawrth 2012 Chapter, Caerdydd *
21 & 22 Mawrth 2012 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
24 Mawrth 2012 Pontio, Bangor
26 Mawrth 2012 Theatr Colwyn, Bae Colwyn
28 Mawrth 2012 Theatr Lyric, Caerfyrddin

Am ragor o wybodaeth a thocynnau ewch i www.falasurion.com neu 01248 715 048.
* Trafodaeth ar ôl y perfformiad gyda Rachel Trezise a’r tîm artistig.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.