Swnami
Bu’r proffwydi gwae yn darogan tranc y Sîn Roc Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond daeth mwy na  200 i weld Candelas, Yr Eira a Sŵnami yn Clwb Canol Dre Caernarfon, a hynny ar nos Lun.

Mae’r bandiau hyn ar ganol taith o Gymru.

Un a fynychodd y gig ddechrau’r wythnos oedd Lowri Wynn o Gaernarfon ac a gafodd ei siomi ar yr ochr orau.

“Mi wnes i gyrraedd y gig yn hwyr a disgwyl y basa yna ddim llawer yno ar nos Lun. Ond ges i sioc a gweld fod y lle ar fin gwerthu allan.

“Roedd y lle, erbyn diwedd yn orlawn, gydag ystod eang o oedran o’r bobl hŷn yn eu pumdegau hwyr i bobl ifanc iau na fi.  Ges i’n siomi ar yr ochr orau, gan weld y lle mor orlawn ond hefyd yn fwy pwysig fod y bobl ifanc yno yn gwrando ar y geiriau, yn dawnsio ac yn mwynhau’r gerddoriaeth.”

Dywed nad yw’r Sîn ar ei gwely angau ond i’r gwrthwyneb fod cerddoriaeth Cymraeg yn ffynnu.

“Y rhai sy’n son am farwolaeth y Sîn yw’r bobl hynny sydd ddim yn mynychu gigs. Ella fod y gerddoriaeth yn llai gwleidyddol nag a fuodd yn y gorffennol, ond mae’r bandiau hyn yn bop go iawn, yn boblogaidd, sy’n denu ac yn hudo pobl. Mae cerddoriaeth Gymraeg yn esblygu”

Cytunodd Ifan Davies, canwr Sŵnami, bod hyn yn arwydd o ddyddiau gwell.

“Mae yna lot o bobl dros y blynyddoedd diwethaf yn dweud fod y Sîn wedi dirywio ond mae’r noson yma yn dangos pa mor iach ydi’r Sîn.

“Nid oeddem yn disgwyl cymaint a hyn, a bu’n rhaid troi pobl i ffwrdd. Mi oedd Clwb Canol Dre yn llawn dop gyda chymysgedd dda o bobl hŷn ac ifanc wedi dod i’r gig. Mi roedd yna 200 yno o be oedde ni yn ei weld yn mwynhau”

“Mae yna griw da o bobl ifanc chweched dosbarth yn dod i’r gigs ac sy’n dod i wrando ar y gerddoriaeth sydd yn beth gwych I ni”

Taith

Fel rhan o’r daith haf, bydd Sŵnami, Candelas a’r Eira yn chwarae ar y dyddiadau canlynol:

Awst 22: Gwyl Crug Mawr, Aberteifi,

Awst 24: Clwb Pêl-droed, Llanidloes.

Awst 25: Gwyl Ger y Môr, Y Rhyl.

Awst 29 – Awst 30, Gŵyl Gwydir, Llanrwst.