Lansiwyd ffilm sinema Gymraeg newydd o’r enw ‘Maldod’ yng ngwyl Iris eleni gan y cyfarwyddwr Lee Haven Jones a’r awdur Roger Williams.
A nawr, mae ymgyrch godi arian fawr wedi’i lawnsio er mwyn talu am y gwaith ffilmio a chynhyrchu.
Maen nhw’n gwahodd pobol i gefnogi’r prosiect trwy gyfrannu cymaint – neu gyn lleied ag y maen nhw’n gallu, o £10 i fyny.
Hanes dyn hoyw o Lundain sy’n dianc i fferm laeth yng ngorllewin Cymru yw’r ffilm, Maldod. Mae’r cymeriad, Al, yn cael ei “achub” gan ferch ifanc o’r enw Mali a’i mam, ac mae’r tri’n troi’n uned deuluol anarferol nes i hanes y diethryn peryglu bob dim.
Fe fydd pawb sy’n cyfrannu arian yn cael eu cynnwys yn y rhestr credydau ar ddiwedd y ffilm orffenedig, yn ogystal a thocynnau i’r premiere a chopiau o’r ffilm ar DVD.
Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth am y prosiect yn fan hyn.