Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
Mae Huw Jones wedi cael ei ailbenodi yn Gadeirydd Awdurdod S4C, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Sajid Javid, heddiw.

Fe gafodd ei benodi yn wreiddiol ym mis Mehefin 2011 ac mae’r ailbenodiad hwn ar gyfer cyfnod pellach o bedair blynedd.

Gwaith Awdurdod S4C yw goruchwylio’r ffordd mae’r Sianel yn cael ei rheoli ac mae’r corff annibynnol hefyd yn gyfrifol am weld beth yw barn y gynulleidfa ar y rhaglenni.

Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan sy’n penodi aelodau’r Awdurdod.

Aelodau’r Awdurdod – Huw Jones (Cadeirydd), Dr Carol Bell, John Davies, Aled Eirug, Marian Wyn Jones, Elan Closs Stephens, Rheon Tomos, Guto Harri, Sian Lewis, Hugh Hesketh Evans.