Benaud yn ei ddyddiau'n chwarae
Mae’r byd criced wedi bod yn talu teyrnged i gyn-gapten Awstralia Richie Benaud, sydd wedi marw yn 84 oed.

Ar ôl gyrfa lewyrchus ar y cae fe symudodd Richie Benaud i fyd y cyfryngau, ble daeth yn adnabyddus yn ddarlledwr yn ei wlad ei hun ac wedyn yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd cadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Giles Clarke, fod y gamp wedi colli “cawr yn y gêm fodern” ac un o “leisiau mwyaf dylanwadol ac awdurdodol” y byd criced.

Llwyddo ar ac oddi ar y cae

Yn ystod ei yrfa llwyddodd Richie Benaud i gymryd 248 wiced a sgorio 2,201 o rediadau mewn 63 gêm brawf, heb golli’r un gyfres erioed tra oedd yn gapten ar ei wlad.

Roedd ganddo’r record am gymryd y nifer fwyaf o wicedi dros Awstralia ar un tro, cyn i Dennis Lillee ac yna Shane Warne ei basio.

Ar ôl hynny fe ddaeth yn llais cyfarwydd ar y radio wrth sylwebu ar griced, gan weithio ar y teledu hefyd yn nes ymlaen yn ei yrfa.

Fe gymerodd hoe o sylwebu yn 2013 ar ôl bod mewn damwain car a, flwyddyn yn ddiweddarach, fe ddechreuodd dderbyn triniaeth am ganser y croen.

Teyrngedau

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist iawn i griced, wrth i ni alaru marwolaeth un o’n hoff feibion,” meddai prif weithredwr Cyngor Criced y Byd, Dave Richardson. “Ar ran yr ICC, rydw i’n cynnig ein cydymdeimladau dwys i deulu a ffrindiau Richie Benaud yn ogystal â phawb sydd yn ymwneud â chriced Awstralia.”

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron mewn neges ar Twitter ei fod wedi tyfu fyny’n gwrando ar sylwebaeth Richie Benaud, ac y byddai’n ei fethu “fel unrhyw gefnogwr o’r gamp”.

Ymysg yr enwau eraill sydd wedi talu teyrnged iddo mae capten Awstralia Michael Clarke, hyfforddwr Awstralia Michael Lehmann a hyfforddwr Lloegr Peter Moores, a’r cyn-chwaraewyr Shane Warne, Sachin Tendulkar a Nasser Hussein.

“Capten ei wlad, un o gricedwyr gorau ei gyfnod a darlledwr heb ei ail am bum degawd … fydd dim Richie Benaud arall,” meddai’r sylwebydd criced Jonathan Agnew yn ei deyrnged yntau.