Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



S4C – Prif Weithredwr newydd yn dechrau ar ei waith

Ionawr 23, 2012 13:43


Ian Jones
Mae Prif Weithredwr newydd S4C yn dechrau ar ei waith heddiw.

Fis Hydref y llynedd, fe wnaeth S4C gyhoeddi mai Ian Jones fydd Prif Weithredwr newydd y sianel.

Cyn hyn, roedd yn gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr gyda chwmni A&E Television Networks yn Efrog Newydd.

Eisoes, mae wedi diolch i bawb am y negeseuon ar wefan Twitter.

Dywedodd mai  “Cydweithio, Cyfathrebu, Uchelgais, Hyder a Beiddgarwch”  fyddai  “geiriau’r misoedd a’r blynyddoedd nesa.”

Mae Ian Jones, sy’n wreiddiol o Dreforys, Abertawe wedi gweithio yn y diwydiant teledu ers bron i 30 mlynedd ym maes darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.

Roedd yn rhan o’r tîm lansiodd S4C ym 1982 ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol, ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 23, 2012 7:30 pm

Beth ddigwyddodd i Iona Jones ? Wnaeth hi ybsetio rhywun neu rywbeth ?

Siwr braidd bod hi adre yn rhoi pins mewn i voodoo doll o Ian Jones !

§

PennaethS4C , Ionawr 23, 2012 7:56 pm

Lol botas maip dduda i. Dwi yma o hyd, chi!

https://twitter.com/PennaethS4C

§

Ifor Hughes , Ionawr 24, 2012 10:38 am

Ife eilir jones yw’r chap pennaeths4c ma ? Pan ddown nhw i wybod eilir dim rhagor o waith i ti ! Cofia does gan s4c ddim sens of hiwmor

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 24, 2012 1:18 pm

Fy neges trydar i i Mr Jones:
Pob lwc yn y job.Amlblatfform.A ydych yn gwylio Click yn selog ar BBC News Channel?Vorsprung durch Einfallsreichtum.Ymlaen
@MartinWilliam34

§| Nodi camddefnydd

gaynor , Ionawr 24, 2012 4:29 pm

Newydd weld hysbys ar y wefan mae Sion a Sian nol ar ein sgrin fach – beiddgar ac uchelgeisiol iawn

§| Nodi camddefnydd

Rhian , Ionawr 24, 2012 4:55 pm

Rhowch gyfle i’r creadur! Synics!

§

Martin Wilias , Ionawr 24, 2012 5:04 pm

Fy ail neges drydar iddo:
Cam ymlaen fyddai cyflwyno eitem ‘Cip ar y wasg brint+arlein’ Newyddion 1930-2000 Llun-Gwen.Wedi ebostio’r BBC

Os ydych eisiau trio cael y maen i’r wal a newid cynnwys S4C er gwell yna dyma ffordd uniongyrchol. Yn syth i’r top.

§

eirwen haf , Ionawr 26, 2012 10:47 pm

Newid comisiynwyr, yn arbennig y prif gomisiynydd, (sydd yn efelychu unbeniaeth Rhian Gibson yn ol y rhai o’i gwmpas), dylai wneud gynta i dalent NEWYDD gael cyfle an unwaith yn lle’r un hen wynebau ar ac oddi ar y sgrin.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.