Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dau o gyflwynwyr Wedi 7 am golli eu swyddi

Ionawr 31, 2012 17:37, Diweddarwyd am 18:02


Yn ôl adroddiadau ar BBC Cymru prynhawn ma mae dau o gyflwynwyr Wedi 7  wedi colli eu cytundeb gyda chwmni Tinopolis.

Fe fydd cytundeb Gerallt Pennant a Meinir Gwilym yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror.

Mae Tinopolis, sydd â’u pencadlys yn Llanelli,  hefyd yn bwriadu cau eu swyddfa yn Galeri yng Nghaernarfon.

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y cwmni y byddai  27 o weithwyr Wedi 3Wedi 7 yn colli eu gwaith yn sgil cwtogi ar gyllideb rhaglenni dyddiol S4C.

Fe ddywedodd Angharad Mair wrth Golwg360 ar y pryd nad oedd “dewis gyda ni yn sgil y toriad yn y gyllideb i’r rhaglenni dyddiol newydd”.

Fis Hydref y llynedd roedd Tinopolis wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar gytundeb i ddarparu rhaglenni cylchgrawn i S4C. Mae’r cytundeb newydd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Mawrth.

Ymateb Tinopolis

Mae pennaeth Tinopolis, Ron Jones, wedi ymateb ar ran y cwmni: “Roedd Wedi 7 a Wedi 3 yn raglenni â chyllideb oedd yn caniatáu dwy eitem o wahanol gymunedau o Gymru dros loeren bob nos.

“Gyda thoriad o 65% yr awr i gyllideb y gwasanaeth newydd gan S4C, mae’n dilyn na all y rhaglenni newydd yma wneud popeth oedd o fewn gallu Wedi 7 a Wedi 3.

“Un effaith uniongyrchol arall i’r toriadau, sy’n cynnwys colli 38 o staff, yw cau’r swyddfa yn Galeri, Caernarfon. Mae hyn yn peri tristwch mawr i ni, er y byddwn yn gwneud popeth o fewn cyfyngiadau’r gyllideb i wasanaethu’r gwylwyr ffyddlon dros Gymru gyfan.

“Mae gwaith ein tîm yn y Gogledd wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd ac mae’n siom enfawr  gorfod ffarwelio â Gerallt Pennant a Meinir Gwilym, gan fod S4C wedi penderfynnu nad oes lle iddynt yn ran o’r gwasanaeth newydd sy’n fwy tabloid ei naws”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


GD , Ionawr 31, 2012 6:26 pm

Trist iawn – cyflwynwyr talentog ill dau.

Gobeithio nad yw pethau fel y mae Ron Jones yn awgrymu, a bod S4C yn ymyrryd er mwyn gwneud W7 yn llai diwylliedig. Mae’r rhaglen wedi gwella’n arw yn y blynyddoedd diwethaf – gobeithio na fydd yn llithro’n ôl i gynhyrchu rwtsh seleb-obsesd.

§

Mali , Ionawr 31, 2012 6:33 pm

Mae hyn yn ofnadwy, colled mawr i diwydiant darlledu yng Nghymru, a golled i Gaernarfon.

§

dim yn sioc , Ionawr 31, 2012 7:13 pm

ddim yn syndod mai Caernarfon a’r Gogledd sydd yn colli swyddi ac nid y de….. fydd pwy bynnag sydd wedi cael y rhaglenni nosweithiol yn cael swyddfa yn y gogledd????

§

Jones , Ionawr 31, 2012 8:06 pm

Colled mawr i G’narfon.
Efallai dylsa Tinpolis wedi cadw C’narfon a Meinir/Gerallt yn lle gwariu £60m, ia MILIWN (sydd dros hanner budget S4C!!!) yn prynu cwmni sydd yn berchen ar Hells Kitchen: http://www.guardian.co.uk/media/2011/jun/28/tinopolis-us-question-time

Be syn bwysig i Tinopolis, y Gymraeg a cael rhaglenni gwych yn Gymraeg- yntau marchnad yr UDA?

§

John Griffith , Ionawr 31, 2012 9:30 pm

Colled.

§

martha , Ionawr 31, 2012 9:55 pm

Nhw di’r rhai gor arna fo! Pam na’r gogleddwyr sy’n cael y sac? Sa chi’n meddwl bonem byd ond defed ac anialdir y tu allan i Gaerdydd o wylio S4C dyddia yma

§| Nodi camddefnydd

cris , Ionawr 31, 2012 10:18 pm

Pwynt dilys Martha PETAE wedi saith cael ei yn darlledu o Gaerdydd.

§

Adam Jones , Chwefror 1, 2012 2:02 am

Er yn amlwg yn golled mawr, nid yw Wedi saith yn cael ei ddarlledu o Gaerdydd ond o Lanelli. Tref sydd yn perthyn yn fwy i’r Cymry Cymraeg yn y Gorllewin, er yn Saesneg ei hiaith yn bennaf bellach mae’r ardal gyfagos yn Gymraeg tu hwnt – Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman gyda dros 74% yn siarad Cymraeg ynddynt!

Mae’r cwmni wedi cyflogi Cymry Cymraeg yn eu bröydd am flynyddoedd, nid ond swyddi cyflwynwyr sydd wedi mynd. mae 33 o swyddi wedi mynd a nifer helaeth ohonynt wedi mynd o bobl sydd yn byw yn ardal Rhydaman/Llandeilo/Pontyberem – Cymunedau Cymraeg Sir Gâr.

Hawdd yw teimlo taw ond gogleddwyr sydd yn cael cam o hyd, dyw hynny jyst ddim yn wir, rydym ni hefyd yng nghymunedau’r de orllewin yn dioddef!

§

Gwyn, Cwm Taf , Chwefror 1, 2012 10:42 am

Swnio’n debyg mai “Heno II” fydd y rhaglen gylchgrawn newydd, mwy o bwyslais ar selebs bei-ling. Ond mae eisiau aillwampio’r fformat hefyd, Wedi 3/7 braidd yn ddi-ddim erbyn hyn.

§

irfon , Chwefror 1, 2012 11:23 am

Mi oedd Ron Jones yn gwybod faint o arian oedd ar gael pan aeth o am y cytundeb. Does dim pwynt cwyno rwan. Tinopolis sy’n penderfynnu pwy sy’n mynd a dwad o fewn y cwmni- nid S4C.

§| Nodi camddefnydd

Rhian , Chwefror 1, 2012 11:42 am

Bydd Gerallt yn golled mawr. Trueni!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 1, 2012 11:48 am

Irfon !
Smo S4C yn cymryd DIM or boen o’r torriadau!

Y nhw wedi’r cyfan gwnaeth mess llwyr o bethe i ddechre ‘da.
Roedd y cyn brifweithredwr dros dro yn talu £1000 y dydd i’w hun ac does dim un person yn y pencadlys yng Nghaerdydd wedi colli swydd neu ostwng cyflog.

Yr UNIG beth sydd wedi digwydd yw canslo’r bus am ddim i’r dre amser cinio. Scandal a rhag cywilydd y CEO newydd fod ein cynitau i hun ddigwydd ma mawr angen y swyddi yna yng Nghaernarfon.

§

Ifor Hughes , Chwefror 1, 2012 11:53 am

O ie un peth arall – BENTHYG yr arian o fanc wnaeth Tinopolis i brynu cwmni yn America ac un rheswm am hynny oedd i gadw swyddi fedrwch chi ddim benthyg arian i wneud cytundebau ar golled ! Pam nad yw S4C yn cymryd PETH o’r boen wedi’r cyfan scandals amdano nhw’n gyson yn y papurau wnaeth helpu y Llywodraeth gwrth-Gymreig yn Llundain i dorri nol ar S4C a rhoi’r cyfan yn nwylo y BBC !

Ian Jones gwna rywbeth am hyn – ma angen i chi yn S4C shario’r boen ond na mae’n haws colli swyddi yn y Gymry Gymraeg na’n agosach at adre yng Nghaerdydd ! Triple gins all round lads !

§| Nodi camddefnydd

irfon , Chwefror 1, 2012 11:55 am

Dwi’n cytuno fod S4C wedi gneud smonach go iawn ohoni. Ond y pwynt ydi fod Tinopolis wedi gneud cais am gytundeb gan wbod yn iawn faint o arian oedd ar y bwrdd yn y lle cynta. Mae cwyno rwan- a trio rhoi’r bai rhywsut ar S4C am ganslo cytundebau Gerallt a Meinir- braidd yn dan din. Unwaith eto- Tinopolis sy’n penderfynnu strwythr y cwmni. Nid S4C.

§| Nodi camddefnydd

dim yn sioc , Chwefror 1, 2012 6:46 pm

tybed beth fydd hyn yn golygu i Galeri? swyddfeydd gwag – fydd ‘na alw am rhain yn yr hinsawdd sydd ohonni? amser addengys…. gan obeithio bydd newyddion gwell i weddill y criw yn Tinopolis yn y Gogledd ac y bydd cwmni arall yn symyd i’r swyddfa/swyddfeydd yn Galeri yn y dyfodol agos.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 3, 2012 6:09 pm

Irfon S4C sy’n dweud beth yw’r gyllideb ac nad yw’r gyllideb honno yn cyniatau gwneud pethe yn y Gogledd beth gall dyn wneud? Yn naturiol agosa at y pencadlys ma pethe rhata’n byd yw e – fact!

§| Nodi camddefnydd

Hefin a Marian , Chwefror 4, 2012 11:43 am

Mi gawn fwy o amser I ddarllen ac I sgwrsio o gylch y tan, ta beth.
Mae llwyddiant neu fethiant person, busnes neu genedl yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir. Gobeithio mai dros dro tan I bethau wella sydd ym mryd Angharad Mair a’i chwmni y tro hyn.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 7, 2012 1:58 pm

Ti’n berson neis Eirwen Haf ! Rhagor o Wermod Lwyd i frecwast yfory eto ?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.