Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Tinopolis: ‘Ergyd greulon i Gaernarfon a cholled i wylwyr’

Chwefror 1, 2012 08:04, Diweddarwyd am 15:38


Alun Ffred Jones
Mae cyhoeddiad cwmni Tinopolis ei bod yn cau ei swyddfa yn Nghaernarfon yn “ergyd greulon” i’r staff a gwylwyr S4C, yn ôl  Aelod Cynulliad Arfon.

Roedd Alun Ffred Jones yn ymateb i’r cyhoeddiad ddoe fod Tinopolis, sy’n gyfrifol am raglenni cylchgrawn dyddiol Wedi 3 a Wedi 7,  i gau ei swyddfa yn y Galeri, Caernarfon gan gael gwared â naw o swyddi.

Fe gyhoeddwyd hefyd y bydd cytundeb y cyflwynwyr Gerallt Pennant a Meinir Gwilym yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror.

Fe fydd Wedi 3 a Wedi 7 yn cael eu hailwampio fel rhan o arlwy newydd gan S4C.

‘Cwtogi ciaidd’

Dywedodd Alun Ffred Jones: “Mae hyn yn ergyd greulon i deuluoedd y rhai fydd yn colli eu swyddi, i Ganolfan Galeri ac i dref Caernarfon, sydd eisoes wedi dioddef llawer yn sgil toriadau yng nghyllid S4C. Ond bydd hefyd yn golled i wylwyr y sianel gan fod safon y rhaglenni yn sicr o ddioddef.

“Mae’r penderfyniad yma’n deillio yn y lle cyntaf o’r cwtogi ciaidd ar gyllideb y sianel gan lywodraeth yn Llundain na ddangosodd unrhyw gydymdeimlad â darlledu Cymraeg, na dealltwriaeth o’r anghenion.”

Ond dywedodd hefyd bod  dyletswydd hefyd ar S4C a’r cwmniau cynhyrchu i flaenoriaethu eu hadnoddau fel bod gwahanol rannau o Gymru’n cael chwarae teg.

“Mae Wedi 3 a Wedi 7 wedi ennill eu plwy trwy sefydlu perthynas glos gyda’u cynulleidfa, na fyddai wedi bod yn bosib heb bresenoldeb gweladwy yn nau begwn y wlad. Mae’n anodd gweld sut y gall unrhyw raglen gylchgrawn gynnal ei safon heb gadw’r cytbwysedd hwnnw,” meddai.

Cytundeb newydd

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, y byddai  27 o weithwyr Wedi 3Wedi 7 yn colli eu gwaith yn sgil cwtogi ar gyllideb rhaglenni dyddiol S4C.

Fis Hydref y llynedd roedd Tinopolis wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar gytundeb i ddarparu rhaglenni cylchgrawn i S4C. Mae’r cytundeb newydd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Mawrth.

Ymateb Tinopolis

Roedd pennaeth Tinopolis, Ron Jones, wedi ymateb ar ran y cwmni: “Roedd Wedi 7 a Wedi 3 yn raglenni â chyllideb oedd yn caniatáu dwy eitem o wahanol gymunedau o Gymru dros loeren bob nos.

“Gyda thoriad o 65% yr awr i gyllideb y gwasanaeth newydd gan S4C, mae’n dilyn na all y rhaglenni newydd yma wneud popeth oedd o fewn gallu Wedi 7 a Wedi 3.

“Un effaith uniongyrchol arall i’r toriadau, sy’n cynnwys colli 38 o staff, yw cau’r swyddfa yn Galeri, Caernarfon. Mae hyn yn peri tristwch mawr i ni, er y byddwn yn gwneud popeth o fewn cyfyngiadau’r gyllideb i wasanaethu’r gwylwyr ffyddlon dros Gymru gyfan.

“Mae gwaith ein tîm yn y Gogledd wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd ac mae’n siom enfawr  gorfod ffarwelio â Gerallt Pennant a Meinir Gwilym, gan fod S4C wedi penderfynu nad oes lle iddynt yn rhan o’r gwasanaeth newydd sy’n fwy tabloid ei naws”.

‘Adlewyrchu Cymru gyfan’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C mai mater i’r cwmni yw penderfynu ynglŷn â lefelau staffio a lleoliadau swyddfeydd.

“Mae Tinopolis wedi ennill tendr gwerth £5.1m i gynnal gwasanaeth cylchgrawn cyfoes sydd yn cynnwys rhaglen gylchgrawn nosweithiol rhwng nos Lun a nos Iau. Yn ogystal â chyflwyno eitemau hamdden a sgyrsiau gyda gwesteion, bydd y rhaglen hefyd yn  cynnwys adroddiadau ar gamera fydd yn rhoi sylw i straeon a phynciau o gymunedau ledled Cymru. Ryda ni wedi nodi o’r dechrau’r pwysigrwydd i adlewyrchu Cymru gyfan.

“Mater i’r cwmni yw penderfynu ynglŷn â lefelau staffio a lleoliadau swyddfeydd, ond ryda ni’n hyderus y bydd y rhaglen newydd yn cynrychioli Cymru gyfan a barn bobl o bob cwr o Gymru yn unol â gofynion Gweledigaeth 2012 a chynlluniau a brand Calon Cenedl S4C.

“Mae Tinopolis hefyd wedi ennill cytundeb mewn tendr agored i ddarparu rhaglen adloniadol nos Wener fydd yn paratoi’r gynulleidfa at y penwythnos – cytundeb sy’n werth £2.7m.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys Llwyd , Chwefror 1, 2012 8:56 am

Meddai Ron Jones: “mae’n siom enfawr gorfod ffarwelio â Gerallt Pennant a Meinir Gwilym, gan fod S4C wedi penderfynnu nad oes lle iddynt yn ran o’r gwasanaeth newydd”

Trist fod S4C, fe ymddengys, wedi rhoi y cytundeb newydd i Tinopolis gyda’r amodau eu bod nhw’n canoli’r cynhyrchiad yn llwyr yn y De Orllewin. Mae’n well na chanoli’r cynhyrchiad yng Nghaerdydd wrth gwrs, ond dal yn drist fod S4C, wrth roi comisiwn, yn annog cwmni i *beidio* bod yn wasanaeth cenedlaethol. Rhyfedd.

§| Nodi camddefnydd

Rhisiart ap Robat , Chwefror 1, 2012 11:14 am

Rhyfedd felly bod cwmni Tinopolis wedi bod yn hysbysebu am is-gynhyrchwyr ar gyfer eu rhaglenni wythnos ddiwethaf ? Ydy nhw’n cwtogi neu’n ehangu ?

§

Ifor Hughes , Chwefror 1, 2012 11:26 am

Smo S4C yn cymryd DIM or boen o’r torriadau!

Y nhw wedi’r cyfan gwnaeth mess llwyr o bethe i ddechre ‘da.
Roedd y cyn brifweithredwr dros dro yn talu £1000 y dydd i’w hun ac does dim un person yn y pencadlys yng Nghaerdydd wedi colli swydd neu ostwng cyflog.

Yr UNIG beth sydd wedi digwydd yw canslo’r bus am ddim i’r dre amser cinio. Scandal a rhag cywilydd y CEO newydd fod ein cynitau i hun ddigwydd ma mawr angen y swyddi yna yng Nghaernarfon.

§

Ifor Hughes , Chwefror 1, 2012 1:41 pm

Pam Ian Jones nad yw S4C yn cymryd peth o’r boen ? S4C neu’n hyrach yr hen management fethodd a pherswadio y Llywodraeth i ariannu’r Sianel yn iawn a rhoi’r cyfan yn nwylo y BBC.

Does neb yn y S4C wedi golli swydd na chwaeth wedi gostwng cyflogau ! Dyle PAWB yn y Sianel ostwng ei gyflog neu ei chyflog yn unol a thorriadau’r Llywodraeth. Dyna fydden deg a gofyn i bawb yn y sector annibynnol wneud yr un peth nid diswyddo yng Nghaernarfon oherwydd methiant yng Nghaerdydd!

Tra bod ni’n trafod y pwnc beth am symud S4C i Gaernarfon bydd y cyflogau llai yn mynd ymhellach yn y fan yna nag yng Nghaerdydd. Ma Ian Jones yn ddi-fai ond dyle fe weithredu neu bydd e’n ‘tarred with the same brush’ ar criw arall !

§| Nodi camddefnydd

Elin Wyn , Chwefror 2, 2012 10:30 am

Er gwybodaeth i Ifor Hughes ac eraill, dau bwynt ffeithiol parthed S4C:
1. Mae 32 o swyddi wedi diflannu yn ystod y 6 mis diwethaf.
2. Nid yw’r staff wedi cael codiad cyflog ers bron i 4 blynedd.
A gyda llaw – dydw i ddim yn gweithio i S4C.

§

Ifor Hughes , Chwefror 2, 2012 9:36 pm

Elin Wyn

1. Ti’n wrong ar y ddau bwynt – os rhywun wedi cael ei ddi- swyddo’n orfodol yn S4C ?

2. Pam dod diswyddidau gorfodol yng Nghaernarfon ond nid yng Nghaerdydd ?

3. Pan na fydde S4C wedi siarad yn gall gyda phawb yn y business teledu a chael pawb i dderbyn fod rhaid cael gostyngiadau ‘across the board’ er mwyn atal diswyddo gorfodol .

4. Derbyn dwi ti ddim yn gweithio i S4C ond os bydden nhw moyn bach o advice news management ma da nhw dy number di ?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.