Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Prif Weinidog yn trafod pryderon S4C/BBC

Chwefror 2, 2012 09:44, Diweddarwyd am 10:46



Bydd Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC y prynhawn yma i drafod ei bryderon ynglŷn â dyfodol darlledu yng Nghymru.

Yn ei gyfarfod â’r Arglwydd Patten, bydd Carwyn Jones yn amlinellu ei bryderon ynglŷn â newidiadau i S4C, ynghyd â thoriadau i wasanaethau’r BBC yng Nghymru.

Dywedodd y byddai’n “atgoffa Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth mor bwysig yr ydyn ni’n gweld y bartneriaeth newydd rhyngddyn nhw ac S4C.

“Mae’n hanfodol bod y ddau gorff yn adeiladu ar y cytundeb newydd a gafwyd rhyngddyn nhw ar ddiwedd 2011,” meddai.

BBC/S4C – manteision i bawb medd Ian Jones

Mae Prif Weithredwr newydd S4C yn dweud ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’r BBC dros y blynyddoedd nesaf, a bod manteision mawr i S4C o’r berthynas.

Dywedodd Ian Jones ei fod wedi bod yn cwrdd â phobol di-ri yn rhinwedd ei swydd newydd dros yr wythnos ddiwethaf, ac yn eu plith, aelodau blaenllaw o’r BBC Prydeinig a Llywodraeth San Steffan.

Yn ôl Ian Jones, mae’r cyfarfodydd hynny wedi ei galonogi, ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag un o “frandiau cyfryngol mwyaf y byd.”

‘Cydweithio’

Wrth siarad â Golwg 360 ddoe, dywedodd y Prif Weithredwr newydd ei fod eisoes wedi bod yn siarad â Chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Lord Patten, a Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, a’u bod wedi addo’u cefnogaeth iddo.

“Dwi’n edrych ymlaen i gydweithio gyda’r BBC,” meddai.

“Y BBC yw un o frandiau cyfryngol mwyaf y byd, a d’oes bosib na allwn ni weithio gyda’r BBC yn lleol fel bod yna fanteision iddyn nhw, a bod ’na fanteision i ni.”

Dywedodd hefyd fod y setliad ariannol i S4C gan y BBC yn ddigonol, cyhyd â bod y sianel wedi paratoi ar gyfer y gostyngiad o £102 miliwn y flwyddyn eleni, i £76 miliwn y flwyddyn erbyn 2017.

“Mae cael gwybod beth fydd y setliad pum mlynedd o flaen llaw yn fantais mawr.. mae’n galluogi ni i gynllunio o flaen llaw gyda’r sector a gyda’r BBC,” meddai.

“Rhaid nawr gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau, a gwneud i’r adnoddau weithio’n galed, ac i gyflenwi lot mwy i ni na falle maen nhw wedi cyflenwi yn y gorffennol.”

‘Cyrraedd pob rhan o Gymru’

Wrth drafod ei weledigaeth ar gyfer S4C ddoe, dywedodd Ian Jones wrth Golwg 360 ei fod yn gobeithio darparu gwasanaeth fydd yn apelio at bobol o bob rhan o Gymru, er gwaetha’r toriadau.

“Mae’n bwysig ar sgrîn, a’r adnodau tu ôl i’r sgrîn, ein bod ni’n cynrychioli Cymru gyfan,” meddai.

Er hynny, dywedodd fod penderfyniad cwmni teledu Tinopolis i gau eu swyddfa yn y gogledd yn adlewyrchu’r sefyllfa economaidd presennol, sydd wedi gorfodi cwmniau i dorri’n ôl.

“Dwi’n cydymdeimlo’n fawr ’da Tinopolis, maen nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau dewr a chaled, ond yn yr hinsawdd economaidd presennol ma’ raid i ni,” meddai.

“Beth sy’n bwysig yw bod Tinopolis yn hapus ’da’r rhaglen maen nhw’n darparu ar gyfer y sgrin a bod yr adran rhaglenni yma yn S4C hefyd yn hapus hefyd.

“Ma gynnon ni hyn a hyn o gyllid,” meddai, “rhaid ffeindio ffyrdd o gydweithio i wneud hynny’n bosib.”

Ond dywedodd y Prif Weithredwr newydd ei fod yn edrych ymlaen at yr her, ac na fyddai wedi gadael swydd yn Efrog Newydd, oedd yn talu cyflog “sylweddol” uwch, os na fyddai’n teimlo’n barod am y swydd.

“Dau gwestiwn oedd gen i wrth ystyried mynd am y swydd, yn gyntaf, a fydde’r swydd yma’n dod fyny eto yn ystod fy ngyrfa i? Ac a fydde fe’n fwy o her nawr nag yn y dyfodol,” meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eirwen Haf , Chwefror 2, 2012 1:49 pm

Peth cynta dylai e wneud yw gael gwared o Gomisiynydd ‘perlau’ fel ‘Zanzibar’ a ‘Rhydian’… Mae’r arlwy yn ‘tyrn-off’ llwyr i fi -yn fy nhridegau a gen i radd yn y Gymraeg ac yn dwli ar raglenni a dramau heriol sydd ar sianeli fel BBC 4 a HBO. Ond dwi fyth yn gwylio S4C. Does na ddim cyfle i feithrin ysgrifennwyr newydd (neu ysgrifennwyr profiadol tu allan i faes teledu sydd am gael siawns i ysgrifennu i’r sgrin Gymreig). Ma ‘Gwaith/ Cartref’ yn enghraifft di-ddychymyg arall o gopio cyfres ‘Teachers’ Channel 4 wnaeth gael ei darlledu am y tro cyntaf yn ol yn 2001! Os nad ydych yn ffrindie gyda chwmniau teledu penodol yng Nghaerdydd, sdim gobaith da chi! (Run hen stori ers dyddie Iona a Rhian G).

§| Nodi camddefnydd

Mali , Chwefror 2, 2012 3:28 pm

Be yw pwynt trafod gyda Carwyn Jones, tydi darlledu heb ei datganoli – a mae Carwyn yn fodlon ar hynny gwaethaf modd.

Fuasa well i Ian Jones mynd i weld Jeremy Hunt neu Cheryl Gillian wyneb i wyneb, mae nhw efo mwy o dylanwad ar bethau na sy gan Carwyn bach.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 2, 2012 4:33 pm

Ian Jones ydy staff S4C yn mynd I ysgwyddo peth o’r bone o’r torridau yma? Gostwng staff drwy ymddeol cynnar ynghyd a gostwng cyflogau yn unol a chanran y torriadau gan y Llywodraeth sydd ei angen a chwedyn gofyn o’r sector annibynnol wneud yr un peth – tan i chi wneud hynny does gan y Sianel ddim y moral high ground i wneud dim – atebwch isod. Cofiwch fod nifer o staff S4C yn complacent yn y picil ma yn wahanol i bobl Llandelio , Llanelli a Chaernarfon !

§| Nodi camddefnydd

gaynor , Chwefror 2, 2012 4:41 pm

complacent neu complicit?

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 2, 2012 10:01 pm

Gaynor

Y ddau !

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 5, 2012 3:24 pm

Yn sicr ni ddylid pennodi y ‘genius’ sgwennodd y ddogfen 2012 yn Gyfarwyddwr Cynnwys – y ddogfen fwya di-werth yn hanes darlledu

Vision 2012, sy’n cynnyws y perlau o ‘cliche’s isod :-

Must-see content, talked-about content and content where the viewer makes an effort or appointment to view

Content that educates, informs and entertains – that is original, challenging and attractive

A service for Wales and the Welsh

An ambition to meet all of the audience’s requirements

Creu ‘Must See Content’ ! Na fe y broblem yw fod y cwmniau teledu wedi bod yn creu ‘content’ does neb moyn watcho ! Simple

Atgoffa rhywun o ystrydebau JBG Thomas yn y Western Mail ! Tybed a oes gan awdur y ddogfen ddiwerth gefndir rygbi ?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.