Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi bod 100 person eisoes wedi ymrwymo i wrthod talu eu trwydded teledu yn rhan o’u protest yn erbyn tocio cyllideb S4C.

Ymysg y bobl sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded teledu mae’r cantorion Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Gai Toms a’r academydd Dr Simon Brooks.

Ni chaniateir cyhoeddi pob un o’r 100 enw oherwydd deddfwriaeth diogelwch data.

Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch fis diwethaf, ac, yn ôl y mudiad, o fewn pedwar diwrnod roedd y cant cyntaf wedi ymrwymo.

Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllideb S4C yn cael ei dorri 25% erbyn 2015 a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r BBC.

“Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu’r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

Fe fydd y mudiad hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru o fis Ionawr i fis Mawrth o’r enw ‘S4C a’r Dyfodol’ er mwyn “codi ymwybyddiaeth o’r bygythiadau i’r sianel a thrafod y ffordd ymlaen”.

‘Brwydr y gallwn ni ei hennill’

“Mae dyfodol ein hunig sianel teledu Cymraeg yn y fantol,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae S4C yn wynebu toriadau i’w chyllid o dros 40% mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a bod grymoedd yn nwylo Gweinidogion San Steffan i gael gwared a hi yn llwyr.

“Mae’r llywodraeth yn arbed 94% o’r arian oedden nhw’n arfer talu i’r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg.

“Mae’r sefyllfa yn argyfyngus; dyna pam rydym yn falch bod cymaint o unigolion wedi dechrau datgan eu bod nhw’n bwriadu peidio â thalu’r drwydded teledu.

“Mae hi yn frwydr y gallwn ni ennill, ac rydym yn ffyddiog oherwydd bod cefnogaeth y cyhoedd yn codi yn ddyddiol. Rydym yn awr yn gwybod o bapurau cabinet Thatcher yr oedd safiad Gwynfor Evans yn hanfodol yn y ffordd a wnaeth e newid safbwynt y llywodraeth, mae’r bobl sydd yn gwrthod talu’r drwydded deledu heddiw yn dilyn yn yr un traddodiad o weithredu’n uniongyrchol ddi-drais.”

Beirniadaeth

Daw cyhoeddiad Cymdeithas yr Iaith yn dilyn adroddiad gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan sydd yn beirniadu y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai’n awdurdodi gweinidogion Llywodraeth Prydain i ddiddymu S4C yn ogystal â nifer o gyrff eraill.

Roedd y Llywodraeth wedi “gwneud smonach” o’r broses, meddai’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n cynnwys ASau o bob ochr i Dŷ’r Cyffredin ac sydd dan gadeiryddiaeth y Ceidwadwr, Bernard Jenkin.

Maen nhw’n dweud nad oedd digon o ymgynghori wedi bod, bod y profion ar gyfer dileu cwangos yn “anobeithiol o aneglur” ac nad oedd Swyddfa’r Cabinet wedi creu trefn iawn.

“Roedd gwleidyddion y blaid geidwadol wedi bod yn addo cyn yr etholiad y byddai’r sianel yn saff yn eu dwylo nhw, roedden nhw yn ceisio camarwain y cyhoedd,” meddai Bethan Williams.

“Pwy sydd yn ffrind i ddarlledu Cymraeg fyddai’n cyflwyno Mesur a fyddai’n caniatau toriadau dibaid i’r sianel a chael gwared arni yn llwyr?”