Iolo Cheung
Mae’r byd wedi gweld y Bale go iawn o’r diwedd, meddai Iolo Cheung …

Nos Fercher am y tro cyntaf fe brofodd Gareth Bale ei werth fel chwaraewr drutaf y byd.

Nid awgrymu ydw i nad ydi o wedi cael tymor cyntaf da yn Real Madrid – mae’r ugain gôl mae o wedi sgorio a’r ffaith iddo greu deunaw arall yn brawf o hynny.

Ond pan daranodd Bale heibio i Marc Bartra gyda phum munud i fynd o ffeinal y Copa del Rey, rhedeg hanner y cae a rhwydo’r gôl fuddugol, honno oedd yr arwydd fod El Galesa wedi cyrraedd.

Yn absenoldeb Ronaldo wrth iddyn nhw wynebu’u prif elynion Barcelona nos Fercher yn Valencia, roedd y pwysau i gyd ar Bale i ddangos ei ddoniau ac arwain Madrid i fuddugoliaeth.

A hawdd deall pam fod y pwysau yna wedi cynyddu – gyda Bale, er gwaethaf ei gyfraniadau drwy’r tymor, wedi methu a chreu argraff yng ngemau mawr Los Blancos.

Ddwywaith yn erbyn Atletico Madrid a Barcelona yn y gynghrair ni lwyddodd Bale i danio cystal ag y mae’n gallu.

Felly roedd sgorio’r gôl fuddugol mewn ffeinal fawr yn hynod o bwysig er mwyn profi nad jyst rhan arall o beiriant Madrid sy’n bwydo Ronaldo ydi Bale.

Ac am chwip o gôl – i’r rheiny sydd heb ei gweld hi eto dyma hi (a sylwebaeth wych y Sbaenwyr):

Mae’n reit debyg a deud y gwir i gôl fach a sgoriodd o ‘chydig wythnosau yn ôl, mewn stadiwm hanner llawn yng Nghaerdydd:

Stori’r stats

Os cofiwch chi, fe gafodd Bale dymor anhygoel y llynedd efo Spurs, gan ennill yr holl wobrau diwedd tymor, cyn symud i Fadrid am £85m.

Ac ar adegau mae’i dymor cyntaf efo Real Madrid wedi bod yn rhwystredig, gydag anafiadau a diffyg ffitrwydd ar ddechrau’r tymor yn ei ddal yn ôl.

Ond mae cip sydyn ar yr ei ystadegau’n adrodd stori ddiddorol iawn – ac yn awgrymu ei fod wedi llwyddo i wneud hyd yn oed yn well i Real eleni nac y gwnaeth o yn ei dymor olaf yn Spurs.

Tymor yma mae o wedi sgorio gôl bob 147 munud, gan greu gôl i’w gyd-chwaraewyr bob 162 munud hefyd.

Tymor diwethaf? Gôl bob 146 munud, ond yn creu un i rywun arall dim ond unwaith bob 267 munud.

Wrth gwrs, mae hynny’n adlewyrchu safon y ddau dîm i ryw raddau – yn Spurs roedd y pwysau i gyd ar Bale i ennill gemau iddyn nhw, gan esbonio ella pam mai fo oedd yn sgorio yn hytrach na chreu’r goliau.

Yn Real mae ganddo chwaraewyr llawer gwell o’i gwmpas, sy’n golygu nad oes angen iddo fod mor hunanol gyda’r bêl.

Dydi ystadegau’r goliau ddim yn adrodd y stori gyfan chwaith – fe sgoriodd Bale lwyth o goliau hwyr, pwysig, a gwefreiddiol i Spurs, tra bod llawer o’i goliau i Fadrid wedi dod mewn buddugoliaethau cyfforddus.

Ond maen nhw’n awgrymu fod Bale wedi setlo’n gyfforddus ym Madrid, ac yn sicr fe allwn ni obeithio’i weld yn gwneud hyd yn oed yn well y tymor nesaf.

Neu hyd yn oed cyn hynny ella – mae Real dal yn rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr, ac yn cadw’r pwysau ar Atletico yn La Liga.

Pa siawns felly y cawn ni weld Bale yn sgorio gôl fuddugol allweddol arall cyn diwedd y tymor yma? Ai fo tybed fydd y gŵr i ennill y decima, y degfed Cwpan Ewrop, y mae Real wedi bod yn crefu ers dros ddegawd?