Newcastle 1–2 Abertawe

Mae dyfodol Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn ymddangos yn dipyn sicrach wedi i gic o’r smotyn hwyr Wilfred Bony gipio’r tri phwynt iddynt yn erbyn Newcastle ar Barc St James brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Shola Ameobi’r tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond tarodd Bony yn ôl gyda goliau yn eiliadau olaf y ddau hanner.

Abertawe a gafodd y gorau o’r gêm yn y chwarter cyntaf ond Newcastle aeth ar y blaen wedi tri munud ar hugain serch hynny pan ymatebodd Ameobi yng nghynt na neb yng nghwrt cosbi’r Elyrch i ganfod y gornel isaf gydag ergyd droed chwith.

Parhau i reoli’r meddiant yn ôl eu harfer a wnaeth y Cymry wedi hynny ac roeddynt yn llawn haeddu bod yn gyfartal toc cyn yr egwyl diolch i beniad Bony o gic gornel gywir Ben Davies.

Cafodd y ddau dîm eu cyfleoedd yn yr ail hanner ond roedd hi’n ymddangos mai pwynt yr un fyddai hi tan i Cheick Tioté lorio’r eilydd, Marvin Emnes, yn y cwrt cosbi yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Camodd Bony at y smotyn gan rwydo ei ail o’r gêm a’i bymthegfed gôl gynghrair o’r tymor.

Roedd honno’n ddigon i gipio’r fuddugoliaeth ac mae’r tri phwynt fwy neu lai yn ddigon i gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall. Maent bellach yn drydydd ar ddeg yn y tabl, chwe phwynt uwch law safleoedd y gwymp.

.

Newcastle

Tîm: Krul, Anita, Dummett, Tioté, Williamson, Coloccini, Cissé (Debuchy 21′), Gosling, (Armstrong 81′), Sh Ameobi, de Jong (Remy 40′), Gouffran

Gôl: Sh Ameobi 23’

Cardiau Melyn: Gosling 32’, Tioté 90’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Britton, Amat, Williams, De Guzmán, Shelvey, Bony, Hernández (Emnes 81′), Routledge (Bartley 90′)

Goliau: Bony 45’, [c.o.s.] 90’

.

Torf: 51,057