Emyr Huws
Mae Wigan wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr canol cae Man City Emyr Huws ar fenthyg am chwe mis.

Mae’r Cymro 20 oed wedi bod ar daith Man City yn yr UDA yr wythnos hon, a phan fydd yn dychwelyd fe fydd yn ymuno â’i glwb newydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y tymor i ddod.

Hon fydd ail gyfnod Huws ar fenthyg yn y Bencampwriaeth, ar ôl iddo dreulio ail hanner y tymor diwethaf gyda Birmingham City.

Cafodd rediad cyson o gemau yn y tîm bryd hynny, gan sgorio ddwywaith mewn 17 gêm gan gynnwys clincar o gôl yn erbyn Middlesbrough a enillodd wobr gôl y tymor.

Mae rheolwr Wigan Uwe Rosler eisoes yn gyfarwydd â Huws ar ôl gweithio gydag ef am gyfnod yn academi Man City nôl yn 2011.

Fe orffennodd Wigan yn bumed yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan golli yn y gemau ail gyfle, ac fe fyddan nhw’n anelu am ddyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair ar yr ail gynnig eleni.

Ac fe fydd Huws, sydd wedi ennill dau gap dros ei wlad, yn gobeithio chwarae’n gyson yn Wigan er mwyn sicrhau ei le yn nhîm Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016 yn yr hydref.

Gôl wefreiddiol Emyr Huws y tymor diwethaf: