Perfformwyr yn Seremoni Agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow
Rhoddodd Glasgow groeso mawr i’r byd neithiwr wrth iddyn nhw ddechrau Gemau’r Gymanwlad yn swyddogol gyda seremoni agoriadol llawn cerddoriaeth a hiwmor.

Fe welodd y 40,000 oedd yn y dorf yn Celtic Park y baton yn cael ei drosglwyddo i’r Frenhines i nodi dechrau’r 20fed Gemau – gyda rhai adroddiadau’n awgrymu y gallai hyd at biliwn o bobl fod wedi gwylio’r seremoni ar y teledu.

Tîm yr Alban gafodd y floedd fwyaf wrth iddyn nhw ddod allan i’r stadiwm, ond cafwyd gwledd o liw wrth i’r dorf wylio cystadleuwyr y 71 o wledydd a fydd yn cymryd rhan, yn gorymdeithio yn y  stadiwm.

Roedd cast o dros 2,000 o bobl yn rhan o’r sioe, a barodd ddwy awr a hanner ac a ddathlodd yr holl bethau sydd yn nodweddiadol am yr Alban.

Ar ôl neges gan yr actor Ewan McGregor, fe ddechreuodd y miri gyda chan gan y diddanwr John Barrowman a’r digrifwr Karen Dunbar yn dathlu diwylliant yr Alban, gan gynnwys popeth o gilt enfawr a chastell Caeredin i fwystfil Loch Ness a chusan gan Barrowman yn Gretna Green.

Cafwyd perfformiad gan Amy McDonald a Rod Stewart o Rhythm Of My Heart yn ogystal â fersiwn Susan Boyle o Mull Of Kintyre a cherddoriaeth gan Calvin Harris.

Cafwyd teyrnged i Nelson Mandela yn ystod y seremoni hefyd, yn ogystal â munud o dawelwch i’r rheiny fu farw ar awyren Malaysia Airlines.

A chafodd dros £2.5m ei gasglu  i UNICEF wrth i rai o sêr y seremoni agoriadol gan gynnwys McGregor, yr actor James McAvoy a’r seiclwr Syr Chris Hoy wneud apêl am arian.

Daeth y seremoni i ben gyda sioe dân gwyllt mawreddog, ac fe estynnodd Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond ei groeso i’r cystadleuwyr.

“Gadewch i bobl yr Alban atgyfnerthu’r neges bwysicaf oll,” meddai Salmond. “Croeso i Gymanwlad y gwledydd. Failte gu Alba. Croeso i’r Alban.”

Pob lwc i Gymru

Wrth i’r athletwyr cyntaf baratoi i gystadlu heddiw fe ddymunodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones pob lwc iddyn nhw, gan eu hannog i  “fynd amdani”.

“Mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle arbennig i ni gystadlu yn erbyn goreuon y byd o dan faner Cymru ac mae’n fraint o’r mwyaf i’r cystadleuwyr gael eu dewis fel rhan o dîm Cymru,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n targed medalau ni [o 27] yn un uchelgeisiol, ond rydym ni’n wlad sydd wastad yn anelu’n uchel ac mae gen i bob ffydd y byddan nhw’n llwyddo.

“Rwy’n dymuno’r lwc orau i’r holl dîm. Roedden ni’n teimlo balchder mawr neithiwr wrth iddyn nhw ddod allan yn Celtic Park ar gyfer y seremoni agoriadol gyda baner Cymru’n chwifio’n uchel.

“Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ein gwneud ni’n falch. Mae Cymru i gyd y tu ôl i chi – ewch amdani!”

Mae rhai o wleidyddion eraill Cymru eisoes wedi bod yng Nglasgow i gyfarfod y tîm yr wythnos hon ac i ddangos eu cefnogaeth.

Maen nhw’n cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru John Griffiths, ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.