Heini Gruffudd
Wrth longyfarch Tîm Cymru ar eu campau yng Ngemau’r Gymanwlad, mae mudiad Dyfodol i’r Iaith yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’n wych clywed rhai o fabolgampwyr Cymru’n siarad Cymraeg ar y radio a’r teledu, gan ddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yn y byd chwaraeon.

“Mae’r Urdd trwy drefnu Chwaraeon Cymru wedi rhoi arweiniad cadarn wrth ddod â’r iaith i ganol byd chwaraeon.

“Yr angen yn awr yw gwneud yn siŵr bod chwaraeon, y mabolgampau a gweithgareddau nofio a hamdden ar gael trwy’r Gymraeg ar lawr gwlad ym mhob sir yng Nghymru.

“Byddai’n dda i’r Safonau Iaith a gaiff eu trafod gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd osod targedau i Awdurdodau Lleol o ran cyflwyno gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc.

“Mae angen hefyd am ymgyrch hyrwyddo’r iaith ymysg clybiau chwaraeon. Mae rhai esiamplau gwych, fel clwb rygbi Crymych, sy’n cynnal 11 o dimau rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae rhai sefydliadau cenedlaethol, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwefan a chyhoeddiadau, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig delwedd Saesneg iawn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Comisiynydd Iaith a’r Prif Weinidog yn cydweithio i greu rhaglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd nesaf.”