Cafodd nofwyr Cymru noson wych yn y pwll nofio neithiwr wrth ychwanegu tair medal at eu casgliad yng Ngemau’r Gymanwlad – gan gynnwys medal aur i Georgia Davies.

Diwrnod yn unig ar ôl i Jazz Carlin fod y ferch gyntaf i ennill aur yn y pwll i Gymru ers 40 mlynedd, fe ychwanegodd Davies un arall wrth ennill ei ras 50m dull cefn mewn amser o 27.56.

Fe gipiodd Davies gyntaf o flaen Lauren Quigley o Loegr a Brooklyn Snodgrass o Ganada, ac roedd y balchder yn amlwg ar ei hwyneb wrth iddi ganu’r anthem ar y podiwm.

Nid honno oedd unig lwyddiant nofio Cymru neithiwr chwaith, wrth i Carlin ei hun gipio’i hail fedal o’r Gemau, y tro hwn medal arian yn y 400m dull rhydd.

Lauren Boyle, a gollodd allan ar yr aur yn yr 800m i Carlin nos Lun, oedd yn fuddugol y tro hwn mewn amser o 4:04.47, gyda Carlin yn cyrraedd y pen mewn 4:05.16 a Bronte Barratt o Awstralia’n drydydd.

Fe ychwanegwyd trydedd fedal y pwll i Gymru yn nes ymlaen gan Daniel Jervis, a lwyddodd i ddod yn ôl a chipio’r fedal efydd reit ar ddiwedd ei ras 1500m dull rhydd.

Gyda Ryan Cochrane o Ganada a Mack Horton o Awstralia’n bell ar y blaen roedd y frwydr rhwng Jervis a Jordan Harrison am y trydydd safle.

Ond ar ôl bod ar ei hôl hi am y rhan fwyaf o’r ras, fe ffeindiodd Jervis egni o rywle i basio’r gŵr o Awstralia yn y 50m olaf i gipio’r fedal.

Roedd llwyddiant y pwll yn golygu fod Cymru wedi ennill pum medal yn gyfan gwbl ddoe, ar ôl i dîm gymnasteg artistig y merched a’r reslwr Craig Pilling gipio medalau efydd hefyd.

Mae’r tîm hefyd wedi cyrraedd eu targed medalau o 27, a hynny gyda phum diwrnod yn weddill o’r