Sgoriodd Andy Sandell gôl hwyr i gipio’r triphwynt i Gasnewydd a sichrau’u buddugoliaeth gyntaf o’r tymor i ffwrdd yn Portsmouth.

Newydd ddod i’r cae bedair munud ynghynt oedd Sandell pan rwydodd unig gôl y gêm ar ôl 84 munud, wrth i’w gic rydd fynd drwy’r holl amddiffynwyr a chanfod ei ffordd i gefn y rhwyd.

Yn ogystal a sicrhau buddugoliaeth gyntaf Casnewydd yng Nghynghrair Dau’r tymor hwn, hon oedd y gêm gyntaf i Portsmouth golli.

Cafodd y dyfarnwr ei gadw’n brysur, fodd bynnag, gan ddangos chwe cerdyn melyn i chwaraewyr Casnewydd a phedair i Portsmouth.