Mae eitem Tîm yr Wythnos golwg360 yn rhoi sylw i rai o glybiau chwaraeon lleol ar hyd a lled Cymru – yr wythnos hon Clwb Rygbi’r Tymbl sy’n hawlio’r sylw.

Enw: Clwb Rygbi’r Tymbl

Cynghrair: Adran Tri A (Gorllewin)

Prif hyfforddwr: Arwel Davies

Capten: Hefin Dumbrill

Fe fydd Clwb Rygbi’r Tymbl yn gobeithio dial y penwythnos hwn wrth iddyn nhw herio Penybanc yfory yn ail rownd Powlen Swalec.

Mae’r Tymbl wedi cael dechrau da i’r tymor eleni, ac yn bedwerydd yn Adran Tri A (Gorllewin) Cynghrair Swalec ar ôl ennill pedair a cholli dwy o’u chwe gêm agoriadol.

Yn anffodus iddyn nhw roedd un o’r colledion hynny’n grasfa yn erbyn Penybanc, a enillodd 55-31 yn erbyn bechgyn Tymbl ar ddechrau mis Hydref.

Ac fe fynnodd capten Tîm yr Wythnos golwg360 y byddai’i dîm yn mynd amdani i geisio dial pan fyddan nhw’n chwarae o flaen eu torf gartref y penwythnos hwn.

“Ie yn sicr ni ishe dial!” meddai’r capten Hefin Dumbrill, sydd wedi chwarae i’r clwb ers 15 mlynedd.

“Wnaethon ni golli’n eithaf trwm iddyn nhw tair wythnos yn ôl, daethon ni nôl ar ddiwedd y gêm a sgorio 31 o bwyntiau yn yr ail hanner.

“Felly mae’r bechgyn yn gobeithio dechrau’n well ar y penwythnos a pheidio gadael iddyn nhw gael dechrau cystal i’r gêm.”

Tîm ifanc

Fe orffennodd Y Tymbl ar waelod Adran Tri (Gorllewin) y tymor diwethaf, ac felly mae’n ymddangos eu bod wedi llwyddo i droi cornel eleni.

Mae hynny, yn ôl Hefin Dumbrill, oherwydd bod cenhedlaeth addawol o chwaraewyr ifanc nawr yn dod drwyddo i’r tîm cyntaf ac yn dechrau gosod eu marc.

“Cawson ni dymor eithaf siomedig tymor diwethaf, ond mae lot o fechgyn ifanc da wedi dod lan o’r tîm ieuenctid eleni felly mae pethau’n dechrau gwella,” esboniodd y capten, sydd allan ar hyn o bryd ag anaf.

“Blwyddyn hyn ni jyst yn edrych i adeiladau carfan eithaf cryf ac wedyn symud ’mlaen, a blwyddyn nesa’ gobeithio bydd y chwaraewyr ifanc yma wedi aeddfedu a bydd tîm cryfach gyda ni.”

Hen glwb Gareth Davies

Un sydd yn sicr yn rhan o hanes nodedig Clwb Rygbi’r Tymbl yw Gareth Davies, cyn-chwaraewr aeth ymlaen i ennill capiau dros Gymru a’r Llewod ac sydd nawr newydd gael ei benodi’n Gadeirydd  Undeb Rygbi Cymru.

Mae’n rhan o dreftadaeth gyfoethog y clwb, sydd hefyd yn cynnwys mewnwr Cymru a’r Scarlets Dwayne Peel, cefnwr Gwyddelod Llundain Darren Allinson, prop y Dreigiau Hugh Gustafson a chefnwr y Scarlets Daniel Evans ymysg eu cyn-chwaraewyr.

Roedd pawb yn y clwb yn falch iawn o weld Gareth Davies yn cael ei benodi’r wythnos hon, ac yn ôl capten Y Tymbl dyw’r dyn heb anghofio’i wreiddiau.

“Mae pawb yn gwybod bod e’n dod o’r pentref, ac mae’n hwb i’r chwaraewyr gweld e’n mynd ’mlaen i gael lle ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru,” meddai Hefin Dumbrill.

“Fe wnaethon ni agor Lolfa’r Llewod yn y clwb llynedd ac fe ddaeth e, Robin McBryde a Dwayne Peel i’r noson i agor y lolfa.

“Ni’n gobeithio gweld e mis nesa’ hefyd mewn noson rygbi – mae’n brysur iawn yn amlwg, ond mae’n galw mewn pan mae’n gallu!”

Bydd Y Tymbl yn herio Penybanc gartref yfory, gyda’r gic gyntaf am 2.30yp.