George North
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cyfaddef ei fod eisiau gweld mwy gan George North yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni – gan fynnu nad yw’r asgellwr yn saff o’i le yn y tîm.

Bydd Cymru yn herio Lloegr yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth ar nos Wener 6 Chwefror, ac mae North yn cystadlu gyda Liam Williams ac Alex Cuthbert am le ar yr asgell.

Fe chwaraeodd Liam Williams yn y fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica yn yr hydref tra bod North wedi anafu, ac fe awgrymodd Gatland y gallai ei ddewis eto yn erbyn Lloegr.

Pêl yn y dwylo

Mae hyfforddwr Cymru eisoes wedi bod yn trafod sut i gael y gorau allan o George North yn ystod ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad y gwanwyn hwn.

“Ar ôl siarad ag [is-hyfforddwr Northampton] Alex King, mae gan Northampton yr un problemau gyda cheisio cael George ar y bêl yn fwy aml,” meddai Gatland am ei asgellwr 22 oed.

“Rydyn ni eisiau gweld mwy o gyffyrddiadau a gweld y bêl yn ei ddwylo. Pan mae’n gwneud hynny mae e’n beryglus ac yn ennill tir i ni.”

Mynnodd Gatland fodd bynnag na fydd yn penderfynu rhwng rhoi North neu Liam Williams ar yr asgell nes wythnos y gêm.

“Fe gawn ni weld sut aiff yr ymarfer, ond os chi’n chwaraewr enillodd yn erbyn De Affrica a ddechreuodd y gêm mae’n gallu bod yn anodd eich gadael chi allan,” meddai Gatland.

“Wnawn ni ddim eistedd lawr nes dydd Llun neu ddydd Mawrth a dechrau siarad am y tîm.

“Mae’n gynnar yn yr wythnos ac fe gawn ni weld sut siâp sydd ar y chwaraewyr. Mae’n sefyllfa dda i ni fod ynddi fod gennym ni opsiynau.”

‘Dim ots am anafiadau’

Mynnodd Gatland hefyd na fydd tîm Lloegr yn wannach oherwydd yr anafiadau maen nhw wedi ei gael yr wythnos hon, gyda chwech o’u tîm cyntaf bellach ddim ar gael.

“Mae gan Loegr ddigon o ddyfnder mewn llawer o safleoedd,” meddai hyfforddwr Cymru.

“Does dim ots pa dîm maen nhw’n ei ddewis. Fe fyddan nhw’n gryf ac fe welsom ni hynny’r haf diwethaf pan ddewison nhw dîm gwahanol yn erbyn yr All Blacks a gwneud yn hynod o dda.

“Felly rydyn ni’n disgwyl wynebu tîm cryf.”