Gateshead 3–1 Wrecsam

Yn dilyn dathliadau’r penwythnos, roedd siom i Wrecsam yn y Gyngres nos Fawrth wrth iddynt deithio i Stadiwm Rhyngwladol Gateshead.

Efallai fod y Dreigiau wedi cyrraedd rownd derfynol Tlws yr FA gyda buddugoliaeth dros Torquay brynhawn Sadwrn ond mae eu tymor trychinebus yn y Gyngres yn parhau wedi iddynt golli o 3-1 yn erbyn Gateshead.

Rhoddodd Alex Rodman y tîm cartref ar y blaen wedi ugain munud cyn i gôl i’w rwyd ei hun gan Rob Ramshaw unioni’r sgôr.

Dau funud yn unig o’r ail hanner oedd wedi mynd pan adferodd Lynden Gooch fantais Gateshead ac roedd y canlyniad yn ddiogel wedi i amddiffynnwr y Cymry, Steve Tomassen, droi’r bêl i’w rwyd ei hun.

Mae Wrecsam yn y deunawfed safle yng Nghyngres Vanarama yn dilyn y canlyniad, naw pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Gateshead
Tîm:
Bartlett, Baxter, Curtis, Gjokaj, Jones, Ramshaw, Oster, Chandler, Gooch, Finnigan, Rodman
Goliau: Rodman 20’, Gooch 47’, Tomassen [g.e.h] 66’
Cerdyn Melyn: Gkokaj 81’
.
Wrecsam
Tîm:
Coughlin, Tomassen, Smith, Waterfall, Ashton, Harris (Storer 78′), Keates (Bishop 65′), Jennings (York 81′), Clarke, Morris, Moult
Gôl: Ramshaw [g.e.h.] 26’
Cardiau Melyn: Clarke 69’, Harris 69’
.
Torf: 705