Tra bod Awstralia’n anelu am eu pumed buddugoliaeth yn ffeinal Cwpan Criced y Byd, mae Seland Newydd yn y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed. Awstralia yw’r ffefrynnau ar eu tomen eu hunain, ac mae’r ystadegau’n sicr yn eu ffafrio nhw. Ond yn 2015, Seland Newydd – nid Awstralia – sy’n ddi-guro yn y gystadleuaeth hon, ac fe fyddan nhw’n barod am yr her sy’n eu hwynebu.

Cyrhaeddodd Awstralia’r ffeinal wedi iddyn nhw guro India yn Sydney, tra bod Seland Newydd yn drech na De Affrica yn eu gornest gyn-derfynol nhw. Pan gyfarfu Awstralia a Seland Newydd yn gynharach yn y gystadleuaeth, y Capiau Duon oedd yn fuddugol.

Ond yn bwysicach na’u taith i’r ffeinal eleni, beth am lwyddiant y ddwy wlad yn erbyn ei gilydd yn hanes Cwpan y Byd? Wel, Awstralia sydd ar y blaen o 6-3, a dim ond unwaith erioed – yn India yn 1996 – y maen nhw wedi herio’i gilydd y tu allan i’r grwpiau, ac Awstralia oedd yn fuddugol bryd hynny.

Dyma ddetholiad o rai o’r chwaraewyr i gadw llygad arnyn nhw yn ystod y ffeinal:

Michael Clarke

Roedd amheuaeth a fyddai capten Awstralia’n holliach ar gyfer y gystadleuaeth o gwbl yn dilyn anaf yn y gyfres brawf yn erbyn India cyn dechrau Cwpan y Byd. Er nad yw’r batiwr wedi creu fawr o argraff ar y gystadleuaeth fel unigolyn hyd yn hyn, fe fydd llygaid y byd ar Clarke pan fydd e’n arwain ei wlad mewn gêm undydd am y tro olaf yfory. Bydd e’n awyddus i ychwanegu ei enw at restr o gapteniaid Awstralia sydd wedi codi’r gwpan – rhestr sy’n cynnwys Allan Border (1987), Steve Waugh (1999) a Ricky Ponting (2003, 2007). Yn dactegydd o fri, fe fydd ganddo fe dasg anodd wrth geisio tawelu nifer o fatwyr Seland Newydd sydd â’r gallu i dynnu unrhyw fowliwr yn ddarnau.

Brendan McCullum

A dyma’r mwyaf peryglus ohonyn nhw i gyd. Mae capten Seland Newydd yn sylweddoli mai’r gwrthwynebwyr yw’r ffefrynnau ar eu tomen eu hunain, cymaint felly nes ei fod e wedi gofyn i gefnogwyr India, gafodd eu curo gan Awstralia yn y rownd gyn-derfynol, i floeddio dros Seland Newydd yn yr MCG yfory – ac mae’n sicr fod yr Indiaid yn barod iawn i dderbyn y gwahoddiad. Ar lefel bersonol, cystadleuaeth ddigon siomedig gafodd McCullum hyd yn hyn, ond gallai’r ffeinal gynnig y cyfle perffaith i gyn-fatiwr Morgannwg ddangos ei ddoniau i’r byd unwaith eto.

Mitchell Johnson

Mae bowliwr cyflym llaw chwith Awstralia wedi cipio 12 wiced hyd yn hyn yn y gystadleuaeth, ac fe fydd ganddo fe’r dasg o gipio wicedi cynnar McCullum a Martin Guptill ar ddechrau’r batiad i dawelu Seland Newydd. Mae Johnson hefyd yn beryglus ym mhelawdau ola’r batiad, felly mae sicrhau rhediadau cynnar yn allweddol i Seland Newydd os ydyn nhw am gael unrhyw siawns o godi’r gwpan.

Martin Guptill

Tarodd batiwr ymosodol Seland Newydd 237 yn erbyn India’r Gorllewin yn rownd yr wyth olaf, gan sicrhau ei le yn y llyfrau hanes fel yr ail sgoriwr uchaf erioed mewn gêm undydd ryngwladol, a’r sgoriwr uchaf erioed yng Nghwpan y Byd. Yn ystod y batiad, fe brofodd ei allu i gyrraedd y ffin droeon ac fe allai hynny fod yn allweddol yn y cyfnodau clatsio drwy gydol y batiad er mwyn rhoi pwysau ar Awstralia.

Mitchell Starc

Mae’r bowliwr cyflym llaw chwith wedi cipio o leiaf ddwy wiced ym mhob gêm yng Nghwpan y Byd hyd yn hyn, a fe yw’r bowliwr sydd wedi sefyll allan drwy gydol y twrnament. Mewn partneriaeth â Johnson ar ddechrau a diwedd y batiad, Starc sydd fwyaf tebygol o gipio wicedi prif fygythiadau Seland Newydd. Os yw Starc yn tanio, fe allai hi fod ar ben ar Seland Newydd cyn iddyn nhw droi rownd.