Caerefrog 0–2 Casnewydd

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth dda yn yn erbyn Caerefrog oddi cartref ar Bootham Crescent brynhawn Sadwrn.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i gadw eu gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn fyw wedi i ganlyniadau eraill fynd yn eu herbyn.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd David Tutonda’r Alltudion ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod yn dilyn gwaith creu da Yan Klukowski.

Roedd Klukowski yn ei chanol hi yn y pen arall ar yr awr, yn ildio cic o’r smotyn am drosedd yn y cwrt cosbi, ond yn ffodus iddo ef fe fethodd Jake Hade a manteisio o ddeuddeg llath.

Chwarter awr yn ddiweddarach roedd y tri phwynt yn ddiogel i Gasnewydd yn dilyn peniad Lee Minshull o gic rydd Mark Byrne.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn y nawfed safle ond mae eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ben. Maent dri phwynt y tu ôl i Plymouth yn y seithfed safle wedi iddynt hwy drechu Tranmere heddiw, ond mae gwahaniaeth goliau’r Saeson ddeunaw gôl yn well!
.
Caerefrog
Tîm: Ingham, McCombe, Lowe, Zubar, Halliday, Coulthirst, Penn (Platt 87′), Summerfield, Coulson (O’Hanlon 77′), Miller (Ilesanmi 68′), Hyde
Cardiau Melyn: McCombe 46’, Halliday 74’
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Poole, Minshull, Feely, Jackson, Tutonda, Klukowski (Collins 87′), Chapman (Owen-Evans 91′), Byrne, O’Connor, Storey
Goliau: Tutonda 49’, Minshull 75’
Cardiau Melyn: Minshull 15’, O’Connor 35’, Jackson 43’, Klukowski 60’
.
Torf: 3,459