Mae’r chwaraewr amryddawn Aneurin Donald wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg i herio Swydd Hampshire yn y T20 Blast yn yr Ageas Bowl yn Southampton heno.

Roedd Donald yn gapten ar dîm Lloegr dan 19 a drechodd Awstralia ar eu tomen eu hunain yn gynharach eleni.

Daeth y cyfle i Donald yn sgil anaf i’r bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg, ac mae’r bowliwr cyflym llaw chwith arall, Wayne Parnell wedi dychwelyd i Dde Affrica.

Ennill pump a cholli pump yw hanes Morgannwg yn y gystadleuaeth mor belled, ac maen nhw wedi sgorio’r un faint o bwyntiau â’u gwrthwynebwyr.

Ond mae’r Saeson heb ddau o’u chwaraewyr disgleiriaf heno, sef Sean Ervine a Fidel Edwards.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Roedd yn fuddugoliaeth dda i ni yn erbyn Swydd Hampshire y llynedd, ac fe ddechreuodd hynny ein hymgyrch ni.

“Mae’r llain yn dda yn Southampton ac maen nhw’n dîm da sy’n gwneud yn dda yn y T20 yn draddodiadol.

“Roedden ni braidd yn anffodus pan chwaraeon ni yn eu herbyn nhw yng Nghaerdydd eleni.

“Chwaraeodd Ervine yn dda y diwrnod hwnnw i sgorio rhediadau hanfodol yng nghanol eu batiad nhw, ond dw i’n deall ei fod e allan ynghyd â Fidel Edwards, felly maen nhw wedi newid ychydig o’i gymharu â dechrau flwyddyn.”

Ychwanegodd Radford ei fod e a’r garfan yn hyderus yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yr wythnos diwethaf.

Am ei benderfyniad i gynnwys Aneurin Donald yn y garfan, dywedodd Radford: “Dw i’n falch ei fod e nôl a’i fod e wedi sgorio rhediadau i’r ail dîm i wneud cais am le.

“Mae’n bwysig ei fod e’n chwarae’n dda er mwyn gwthio’i ffordd i mewn i’r tîm.

“Fe chwaraeodd e’r llynedd yn y Bencampwriaeth a chael hanner canred yn erbyn bowlwyr da Swydd Hampshire felly dw i’n sicr y bydd e nôl yn y tîm cyntaf unwaith eto.”

Carfan 12 dyn Swydd Hampshire: J Vince (capten), M Carberry, J Gatting, O Shah, J Adams, A Wheater, W Smith, C Wood, Yasir Arafat, D Briggs, G Berg, J Bird

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Meschede, C Ingram, C Cooke, B Wright, D Lloyd, M Wallace, A Salter, R Smith, D Cosker, M Hogan, A Donald